Dewislen

Cynorthwyydd Dysgu Lefel 2 (Gradd 4, SCP 5-6)

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 09 Ionawr 2026
Oriau: Llawn Amser
Dyddiad cau: 27 Ionawr 2026
Lleoliad: Tregwyr, Swansea, SA4 3DB
Gweithio o bell: Ar y safle yn unig
Cwmni: eTeach UK Limited
Math o swydd: Cytundeb
Cyfeirnod swydd: 1528657

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Teitl y Swydd: Cynorthwywyr Addysgu (2 Swydd)
Lleoliad: Ysgol Gyfun Gwyr
Oriau: Llawn amser ar gyfer un swydd; mae’r ail swydd yn swydd rhan-amser, dau ddiwrnod yr wythnos.
Cyflog: GRADD 4 (SCP 5-6)
Dyddiad Dechrau: 23/02/2026
Dyddiad Cau: 27/01/2026
Am y Rôl:
Rydym yn chwilio am ddau Gynorthwyydd Addysgu brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â’n tîm yn yr Adran ADY. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio’n agos gyda’r athrawon i gefnogi dysgu a datblygiad disgyblion, gan sicrhau amgylchedd cadarnhaol a chynhwysol i bawb.
Cyfrifoldebau:
• Cynorthwyo pobl ifanc 11 i 18 oed i gynllunio a chwblhau tasgau.
• Cefnogi disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
• Cefnogi disgyblion gyda'u sgiliau llythrennedd, rhifedd a TGCh
• Cefnogi athrawon gyda rolau amrywiol o fewn y dosbarth.
• Addasu a pharatoi adnoddau yn ôl yr angen a fydd yn addas ar gyfer y person ifanc y byddwch yn gweithio â nhw.
• Dangos empathi at anghenion y disgyblion tra'n eu hannog i gyflawni eu potensial.
• Cyflwyno sylwadau am gynnydd y disgyblion rydych chi’n gweithio gyda fel rhan o brosesau adolygu cynlluniau datblygu unigol yr ysgol.
• Deall y polisi diogelu plant a'ch rôl o fewn y polisïau hyn.
• Y gallu i ymddwyn yn broffesiynol bob amser tra'n gweithio yn yr ysgol.
• Y gallu i weithio'n effeithiol dan bwysau, yn unigol ac mewn tîm.
• Egni, brwdfrydedd, amynedd a synnwyr digrifwch.
• Helpu i gynnal amgylchedd dosbarth diogel
Gofynion Angenrheidiol y swydd:
• Cymraeg yw iaith swyddogol yr ysgol hon ac o ganlyniad, mae’r gallu i gyfathrebu, ysgrifennu a darllen trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd.
Sut i Ymgeisio:
Oes gennych chi ddiddordeb i ddatblygu’n broffesiynol? Oes gyda chi’r cymwysterau neu brofiad perthnasol? Hoffech chi gynorthwyo disgyblion ar eu taith addysgol?
Os felly, danfonwch eich llythyr cais ynghyd a’ch CV at sylw y CADY, Mrs Emma Morris, drwy law Rhiannon Cummins, rheolwr gweinyddol yr adran ADY.
Yn ddelfrydol, danfonwch y cais ar ffurf e-bost ond derbyniwn unrhyw gopiau caled hefyd - i’w danfon at sylw Mrs Emma Morris, Ysgol Gyfun Gŵyr, Stryd Talbot, Tre-gŵyr, Abertawe. SA4 3DD. Cofiwch ddarparu enw dau ganolwr sy’n medru cynnig geirda ar eich cyfer.
O ganlyniad i natur, dyletswyddau a chyfrifoldebau’r swydd hon, fe fydd y penodiad yn amodol ar wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Disclosure and Barring Service - DBS). Mae’r swydd hefyd yn amodol ar adroddiad llwyddiannus yn dilyn cyfnod prawf o chwe mîs yn gychwynnol.

Gwneud cais am y swydd hon