Dewislen

Hyfforddwr Plismona sy’n Canolbwyntio ar y Plentyn ac a Hysbysir gan Drawma

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 08 Ionawr 2026
Cyflog: £32,613 i £35,772 bob blwyddyn
Oriau: Llawn Amser
Dyddiad cau: 21 Ionawr 2026
Lleoliad: Carmarthen, Carmarthenshire
Gweithio o bell: Hybrid - gweithio o bell hyd at 2 ddiwrnod yr wythnos
Cwmni: Dyfed-Powys Police
Math o swydd: Parhaol
Cyfeirnod swydd:

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Heddlu Heddlu Dyfed Powys
Math o rôl Staff Heddlu
Maes Busnes / Adran Dysgu a Datblygu
Lleoliad Pencadlys
Hyblyg/Sefydlog/Sefydlog a Gweithredol Hyblyg
Gradd E
Cyflog £32,613 - £35,772
Rhan/Llawn Amser Llawn Amser
Oriau'r Wythnos 37
Math o Gytundeb Parhaol
Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol? 1
Dyddiad Cyfweliad 3 Chwefror 2026
Dyddiad cau 21/01/26 23:55

Disgrifiad Hysbysiad Swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Hyfforddwr Plismona sy’n Canolbwyntio ar y Plentyn ac a Hysbysir gan Drawma yn Dysgu a Datblygu

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Cyflwyno delwedd a gwasanaeth proffesiynol i fyfyrwyr wrth gyflenwi hyfforddiant, gan ymgysylltu’n effeithiol â chwsmeriaid mewnol ac allanol ar bob lefel.
Bod yn atebol am gynhyrchu deunydd ymchwil a deunydd hyfforddi sy’n canolbwyntio ar y plentyn ac a hysbysir gan drawma er mwyn galluogi cyflenwi’r cynllun hyfforddi wedi’i gostio.
Datblygu, gwerthuso a gwella deunydd hyfforddi plismona sy’n canolbwyntio ar y plentyn ac a hysbysir gan drawma a bod yn hyblyg i addasu deunydd a chyflenwi dysgu yn ôl yr angen.
Os ydych chi’n credu bod gennych chi’r sgiliau a’r angerdd ar gyfer y swydd hon, cliciwch y ddolen isod i weld y proffil swydd. Os ydych chi’n credu mai hon yw’r swydd i chi, cwblhewch ffurflen gais, gan roi tystiolaeth yn erbyn y cymwysterau gofynnol (sydd ar dudalen olaf y proffil swydd fel arfer).

Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr a atodir isod, sy’n rhoi mwy o fanylion ynglŷn â sut i gwblhau’ch cais.

https://www.dyfed-powys.police.uk/SysSiteAssets/media/downloads/dyfed-powys/careers/guidance-Documents/police-staff-attainments-welsh-.pdf

Beth allwch chi ddisgwyl?

Bydd gan bob dechreuwr newydd gyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno
24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus
24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle
Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)
Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas
Cynllun Beicio i’r Gwaith
Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi
Cynllun pensiwn
Rhwydweithiau Cymorth Staff
Cyfleoedd gweithio hyblyg
Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael
Darpariaethau tâl salwch
Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.

Cynhelir cyfweliadau:  03/02/2026

Amrywiaeth a’r Gymraeg

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.

Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.

Cliciwch fan hyn i weld pa un ai a ydych chi’n gymwys ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol ai peidio.

Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Pwynt gwybodaeth:

Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recruitment@dyfed-powys.police.uk

Neu ymunwch â’n digwyddiad recriwtio galw heibio wythnosol ar ddydd Mercher o 11y.b. – 11:30y.b. fan hyn.

Gwneud cais am y swydd hon