Rheolwr Cynllun Clwb Cwtsh (Rhan Amser)
| Dyddiad hysbysebu: | 06 Ionawr 2026 |
|---|---|
| Cyflog: | £40,460 i £50,449 bob blwyddyn, pro rata |
| Oriau: | Rhan Amser |
| Dyddiad cau: | 18 Ionawr 2026 |
| Lleoliad: | Cymru, UK |
| Gweithio o bell: | Hybrid - gweithio o bell hyd at 1 diwrnod yr wythnos |
| Cwmni: | Mudiad Meithrin Cyf |
| Math o swydd: | Dros dro |
| Cyfeirnod swydd: |
Crynodeb
Ydych chi’n drefnus, yn frwdfrydig ac yn mwynhau gweithio gyda phobl? Rydym yn chwilio am berson sydd â sgiliau rhyngbersonol gwych, a’r gallu i weithio’n hyblyg, yn annibynnol ac i arwain staff perthnasol gyda hyder.
Mae cyfathrebu’n rhan hanfodol o’r swydd, felly mae’n bwysig eich bod yn gallu cyfathrebu’n rhugl, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Bydd y rôl hon yn berffaith i rywun sydd â sgiliau trefnu cryf, yn gallu rheoli nifer o brosiectau ar yr un pryd, ac yn medru ymateb yn gyflym o fewn terfynau amser. Bydd gwybodaeth gadarn am ddarpariaeth addysg gynnar a dysgu Cymraeg hefyd yn fantais fawr.
Os ydych chi’n edrych am her newydd a rôl sy’n gwneud gwir wahaniaeth, hoffem glywed gennych!
Dyletswyddau’r Swydd
Bydd Rheolwr Clwb Cwtsh yn atebol i’r Prif Weithredwr trwy’r Pennaeth Hyfforddiant Iaith am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
· Ysgwyddo cyfrifoldeb am gyflawniad a datblygiad Cynllun Clwb Cwtsh gan sicrhau fod targedau a gytunir gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol (yn cael eu cyrraedd, a safonau uchel yr adran yn cael eu cadw.
· Rheoli gwaith, a darparu arweiniad a chefnogaeth i holl staff y cynllun.
· Gweithredu fel rheolwr llinell i Brif Swyddogion cynllun Clwb Cwtsh
· Cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda phob aelod o staff perthnasol i gynllunio gwaith, gosod targedau a chyfeiriad gwaith.
· Sicrhau fod gwaith yr adran yn cyd-fynd â nod ac amcanion Mudiad Meithrin
· Cynnig arweiniad strategol a gweledigaeth ar gyfer cyflawni targedau cynlluniau Clwb Cwtsh
· Cyflwyno ceisiadau i gyllidwyr yn ôl yr angen er mwyn datblygu’r cynllun mewn cydweithrediad â’r Pennaeth a’r Prif Weithredwr
· Cydweithio â Rheolwyr eraill y Mudiad i adnabod cyfleoedd cydweithio a chryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg mewn lleoliadau
· Chwarae rhan ragweithiol yn nhîm rheoli Mudiad Meithrin gan fynychu a pharatoi at gyfarfodydd, cymryd rhan mewn trafodaethau am weithgaredd cyffredinol Mudiad Meithrin (tu hwnt i arbenigedd yr adran), rhaeadru gwybodaeth berthnasol i aelodau staff tîm yr adran.
· Paratoi adroddiadau manwl ar gyflawniad gwaith yr adran i gyllidwyr ac i bwyllgorau rheoli/pwyllgorau Mudiad Meithrin yn ôl y galw.
· Paratoi adroddiadau i’r Llywodraeth/Mudiad Meithrin yn ôl y galw.
Dyletswyddau perthnasol
· Ar y cyd â’r Prif Swyddogion, sicrhau bod cyfundrefnau addas yn cael eu mabwysiadau a’u gweithredu fel bod cynllun gwaith addas gan bob swyddog.
· Ar y cyd ag adran Gyllid Mudiad Meithrin a Phennaeth yr adran, sicrhau fod gweithdrefnau ariannol tynn yn cael eu cynnal er mwyn dangos llwybrau awdit eglur ar wariant y cynllun.
· Ar y cyd â Rheolwr Marchnata Mudiad Meithrin, sicrhau bod strategaeth farchnata addas yn cael ei dyfeisio a’i gweithredu ar gyfer darganfod dysgwyr, hyrwyddo cynnydd y cynllun a chysylltu’r gwaith i strategaeth ehangach Mudiad Meithrin. Adrodd ar y canlyniadau i gyllidwyr a phwyllgorau fel bo angen.
· Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Bydd deilydd y swydd yn:
· Ymwybodol o waith y Mudiad ac â dealltwriaeth gadarn o’n blaenoriaethau fel y gallant arwain ar y cynlluniau hyn yn hyderus ac effeithiol
· Meddu ar brofiad o weithio yn y maes dysgu Cymraeg neu â’r gallu i ddysgu’n gyflym
· Person effeithlon a threfnus yn weinyddol er mwyn gallu rheoli nifer o gynlluniau yr un pryd, a’r gallu i ymateb yn sydyn ac o fewn terfynau amser.
· Y gallu i gynnal gwaith ymchwil a phrosesu gwybodaeth a chanllawiau.
· Y gallu i weithio’n annibynnol yn hyderus.
Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd