Dewislen

Swyddog Adnoddau Dynol

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 20 Tachwedd 2025
Cyflog: £24,200 i £27,835 bob blwyddyn
Oriau: Llawn Amser
Dyddiad cau: 05 Rhagfyr 2025
Lleoliad: Cymru, UK
Gweithio o bell: Hybrid - gweithio o bell hyd at 4 ddiwrnod yr wythnos
Cwmni: Mudiad Meithrin Cyf
Math o swydd: Cytundeb
Cyfeirnod swydd:

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Dyletswyddau’r Swydd

Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Adnoddau Dynol

• Gweithio mewn tîm bach, gan gydweithio gydag adrannau eraill yn ôl yr angen megis Cyllid.
• Cynorthwyo gyda materion adnoddau dynol Mudiad Meithrin a’r is gwmni Meithrinfeydd Cymru Cyf.
• Cydlynu’r broses recriwtio, penodi ac anwytho staff.
• Cynhyrchu llythyrau a chytundebau cyflogaeth.
• Diweddaru a pharatoi newidiadau i wybodaeth ar gyfer y gyflogres yn fisol.
• Cynorthwyo i ddatblygu a chynnal Bas Data yr adran i gadw cofnod o holl ddogfennau cyflogaeth staff gan sicrhau ansawdd, cywirdeb a chyfrinachedd data staff Mudiad Meithrin a Meithrinfeydd Cymru Cyf.
• Rhoi cyngor clir ac amserol ar bob agwedd o faterion cyflogaeth i staff a rheolwyr Mudiad Meithrin a phwyllgorau rheoli Cylchoedd Meithrin o fewn eich maes cymhwysedd e.e. cysylltiadau â staff, rheoli presenoldeb, materion cytundebol a rhoi atebion hyderus yn seiliedig a deddfwriaeth cyflogaeth, polisïau a gweithdrefnau.
• Datrys problemau a materion, gan gynnig ateb neu uwch gyfeirio at y Dirprwy Reolwr / Rheolwr Adnoddau Dynol.
• Cynghori a chynorthwyo adrannau gyda materion disgyblu/cwynion i gynnal ymchwiliadau, cadw cofnodion a darparu dogfennau perthnasol ar gyfer gwrandawiadau ffurfiol.
• Datblygu a darparu sesiynau hyfforddi ar gyfer adrannau’r Mudiad a rheolwyr.
• Cynorthwyo i baratoi adroddiadau rheolaidd ar faterion Adnoddau Dynol yn ôl yr angen.
• Cynorthwyo i ddatblygu a chynnal tudalen Adnoddau Dynol ar fewnrwyd Mudiad Meithrin er mwyn rhannu gwybodaeth ddefnyddiol a chyfredol gyda staff a chylchoedd
• Cyflawni tasgau gweinyddol cyffredinol Adnoddau Dynol, gan gynnwys cymryd cofnodion mewn cyfarfodydd mewnol ac allanol fel y bo’r angen.
• Cynorthwyo’r Rheolwr Adnoddau Dynol i sicrhau bod polisïau a gwybodaeth Adnoddau Dynol yn cael eu cadw’n gyfredol ynghyd â gwybodaeth yn y llawlyfr staff.
• Cynorthwyo i gyflawni ymarferion glanhau data rheolaidd i sicrhau bod y systemau boed ar bapur neu’n electronig yn gyfredol a chywir
• Cymryd cyfrifoldeb dros eich datblygiad parhaus eich hun i gynnal eich dealltwriaeth o newidiadau mewn deddfwriaeth cyflogaeth ac ymarfer da.
• Delio gyda holl faterion mewn modd sensitif a chyfrinachol.
• Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth Mudiad Meithrin yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr
• Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd

Hyderus o ran Anabledd
Yn gyffredinol, bydd cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn cynnig cyfweliad i unrhyw ymgeisydd sy'n datgan eu bod yn anabl ac yn bodloni'r meini prawf lleiaf ar gyfer y swydd fel y diffinnir gan y cyflogwr. Mae'n bwysig nodi, mewn rhai sefyllfaoedd recriwtio fel nifer fawr o ymgeiswyr, cyfnod tymhorol ac amseroedd prysur iawn, efallai y bydd y cyflogwr am gyfyngu ar y niferoedd cyffredinol o gyfweliadau a gynigir i bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl. Am fwy o fanylion ewch i Hyderus o ran Anabledd.

Gwneud cais am y swydd hon