Dewislen

Swyddog Llwythi Anghyffredin

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 19 Tachwedd 2025
Cyflog: £28,914 i £30,897 bob blwyddyn
Oriau: Llawn Amser
Dyddiad cau: 01 Rhagfyr 2025
Lleoliad: SA31 2PD
Gweithio o bell: Hybrid - gweithio o bell hyd at 3 ddiwrnod yr wythnos
Cwmni: Dyfed-Powys Police
Math o swydd: Parhaol
Cyfeirnod swydd:

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Heddlu
Heddlu Dyfed Powys
Math o rôl
Staff Heddlu
Maes Busnes / Adran
Ymgyrchoedd Arbenigol
Lleoliad
Pencadlys
Hyblyg/Sefydlog/Sefydlog a Gweithredol
Hyblyg
Gradd
D
Cyflog
£28,914 - 30,897
Rhan/Llawn Amser
Llawn Amser
Oriau'r Wythnos
37
Math o Gytundeb
Parhaol
Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol?
1
Dyddiad Cyfweliad
6 Ionawr 2026
Dyddiad cau
01/12/25 23:55

Disgrifiad Hysbysiad Swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Swyddog Llwythi Anghyffredin yn Gweithrediadau Arbenigol – Cynllunio Gweithrediadau.

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Monitro a gweinyddu’r holl symudiadau llwyth anghyffredin yn Heddlu Dyfed-Powys. Ymgymryd â gwaith Cynllunio Gweithrediadau ehangach ar gais y Rheolwr Llinell.

1. Cofnodi symudiadau llwythi anghyffredin o fewn yr ardal Heddlu.
2. Trefnu gwasanaeth hebrwng yr Heddlu fel y bo angen a gweinyddu’r taliadau.
3. Sicrhau y cydymffurfir â Pholisi’r Heddlu ar symud llwythi anghyffredin a bod y polisi’n cael ei ddiweddaru yn unol â newidiadau a deddfwriaethau Cenedlaethol.

Os ydych chi’n credu bod gennych chi’r sgiliau a’r angerdd ar gyfer y swydd hon, cliciwch y ddolen isod i weld y proffil swydd. Os ydych chi’n credu mai hon yw’r swydd i chi, cwblhewch ffurflen gais, gan roi tystiolaeth yn erbyn y cymwysterau gofynnol (sydd ar dudalen olaf y proffil swydd fel arfer).

Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr a atodir isod, sy’n rhoi mwy o fanylion ynglŷn â sut i gwblhau’ch cais.

https://www.dyfed-powys.police.uk/SysSiteAssets/media/downloads/dyfed-powys/careers/guidance-Documents/police-staff-attainments-welsh-.pdf

Beth allwch chi ddisgwyl?

Bydd gan bob dechreuwr newydd gyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno
24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus
24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle
Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)
Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas
Cynllun Beicio i’r Gwaith
Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi
Cynllun pensiwn
Rhwydweithiau Cymorth Staff
Cyfleoedd gweithio hyblyg
Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael
Darpariaethau tâl salwch
Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.

Bydd y cyflog ar gyfer unrhyw swyddi gwag rhan amser ar sail pro rata.

Amrywiaeth a’r Gymraeg

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.

Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.

Cliciwch fan hyn i weld pa un ai a ydych chi’n gymwys ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol ai peidio.

Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Pwynt gwybodaeth:

Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recruitment@dyfed-powys.police.uk

Neu ymunwch â’n digwyddiad recriwtio galw heibio wythnosol ar ddydd Mercher o 11y.b. – 11:30y.b. fan hyn.

Gwneud cais am y swydd hon