Swyddog Sustemau TGCh a Thechnoleg
| Dyddiad hysbysebu: | 17 Tachwedd 2025 |
|---|---|
| Cyflog: | Heb ei nodi |
| Gwybodaeth ychwanegol am y cyflog: | £28,598 - £31,022 |
| Oriau: | Llawn Amser |
| Dyddiad cau: | 24 Tachwedd 2025 |
| Lleoliad: | Caernarfon, Gwynedd, LL55 4AD |
| Gweithio o bell: | Ar y safle yn unig |
| Cwmni: | eTeach UK Limited |
| Math o swydd: | Parhaol |
| Cyfeirnod swydd: | 1518263 |
Crynodeb
Swyddog Sustemau TGCh a Thechnoleg
Cytundeb Parhaol
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos.
Cytundeb Llawn Amser – nid tymor Ysgol yn unig.
Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i benodi person brwdfrydig ac egnïol ar gyfer y swydd uchod sydd yn meddu ar y cymwysterau priodol a’r sgiliau addas. Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am sicrhau gweithrediad effeithiol ac effeithlon systemau TGCh a Thechnoleg yr ysgol - gweler y swydd ddisgrifiad yn y pecyn hysbysebu am ragor o fanylion.
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa S1 pwyntiau 12-17 (sef £28.598 - £31,022) y flwyddyn, yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd yma. Mae’r ysgol yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
DYDDIAD CAU: 9 Y BORE, DYDD LLUN, 24ain O DACHWEDD 2025.
DYDDIAD CAU: 9 Y BORE, DYDD LLUN, 24ain O DACHWEDD 2025.