Rheolwr Darpariaeth Y Gweithle
| Dyddiad hysbysebu: | 13 Tachwedd 2025 |
|---|---|
| Cyflog: | £46,431 i £50,319 bob blwyddyn |
| Oriau: | Llawn Amser |
| Dyddiad cau: | 28 Tachwedd 2025 |
| Lleoliad: | Newtown, Powys |
| Gweithio o bell: | Hybrid - gweithio o bell hyd at 5 ddiwrnod yr wythnos |
| Cwmni: | Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales |
| Math o swydd: | Parhaol |
| Cyfeirnod swydd: | Rheolwr Darpariaeth Y Gweithle - 11.25 |
Crynodeb
Rheolwr Darpariaeth Y Gweithle
Llawn amser 35 awr yr wythnos
(gellir ystyried ceisiadau i rannu swydd neu rhan amser)
Parhaol
Graddfa Cyflog cyfredol: UPS1 £46,431.08 - £50,319.89 y flwyddyn, dibynnu ar brofiad (dyfarniad cyflog blynyddol yn yr arfaeth)
Yn ogystal â phecyn gwyliau a buddianau hael
Lleoliad: I’w gadarnhau - mae angen teithio i leoedd ledled Cymru yn unol â anghenion y rôl
Ymunwch gyda Ni yn Addysg Oedolion Cymru – Lle Mae Dysgu’n Trawsnewid Bywydau
Yn Addysg Oedolion Cymru, credwn fod addysg yn arf pwerus ar gyfer trawsnewid personol a chymunedol. Fel prif ddarparwr Cymru ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned, rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd dysgu hygyrch o ansawdd uchel sy’n grymuso unigolion i wireddu eu potensial a chyfrannu’n gadarnhaol at gymdeithas. Ein cenhadaeth yw hyrwyddo dysgu gydol oes ac ehangu mynediad at ddysgu a sgiliau, gan feithrin amgylchedd cynhwysol a chefnogol lle gall pawb ffynnu.
Rydym yn falch o'n gwerthoedd a'n hethos, sydd wedi'u gwreiddio mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a pharch. Gwerthfawrogwn ein staff fel ein hased mwyaf ac rydym yn ymroddedig i greu gweithle cadarnhaol, cydweithredol a deinamig lle mae pob aelod o'r tîm yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, ei gefnogi a'i ysgogi i gyflawni ei orau.
Y Rôl: Rheolwr Darpariaeth Y Gweithle
Mae Addysg Oedolion Cymru wedi bod yn cefnogi’r ddarpariaeth sy'n gysylltiedig â gweithleoedd a chyflogwyr am flynyddoedd lawer. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda TUC Cymru a undebau sengl i gynllunio, datblygu a chyflwyno rhaglen addysg Undebau Llafur ac rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda undebau sengl ledled Cymru i ddarparu gweithgareddau dysgu sy'n cefnogi prosiectau Cronfa Ddysgu Undebau Cymru. Mae ein darpariaeth Gweithle hefyd yn cynnwys amrywiaeth eang o raglenni dysgu galwedigaethol i weithwyr ledled Cymru, sy'n cael eu hariannu gan Gyfrifon Dysgu Personol.
Dyma amser cyffrous i ymuno gyda'n tîm darpariaeth Y Gweithle. Fel Rheolwr Darpariaeth y Gweithle byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi gweithgareddau cynhyrchu incwm a twf masnachol drwy gynyddu gweithgareddau masnachol sy'n gysylltiedig â chyflogwyr y sefydliad
Fel Rheolwr y Gweithle, bydd gennych dîm sefydledig yn gweithio ledled Cymru sy'n cynnwys:
• 3 Cydlynydd Datblygu Cwricwlwm
• 2 Gweinyddwr Cymorth Cwricwlwm
• Tîm o Staff Cyflwyno
Mae hon yn rôl strategol ac ymarferol ar yr un pryd; os ydych yn mwynhau gweithio gyda phobl mewn amgylchedd gwaith cyflym, amrywiol a gwobrwyol lle mae eich gweithredoedd yn gwneud gwahaniaeth i bobl ledled Cymru, yna byddem wrth ein bodd yn derbyn eich cais.
Sut i wneud cais
Ymgeisiwch erbyn 12:00 Dydd Gwener 28ain Tachwedd gan ddefnyddio'r ffurflen gais ar gael ar wefan Addysg Oedolion Cymru - nodwch n ad ydym yn derbyn CV. Ceir rhagor o fanylion am y rôl ynghyd â manyleb swydd a person yn y pecyn cais.
Cyfweliadau i'w trefnu yn ystod yr wythnos yn dechrau 8fed a/neu 15fed Rhagfyr.
Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei weithlu dwyieithog. Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn y naill iaith neu'r llall yn cael eu trin yn gyfartal.
Croesawn geisiadau a ddymunir cael eu hystyried ar gyfer (ond heb fod yn gyfyngedig i) gweithio'n rhan-amser a threfniadau rhannu swydd. Gellir trafod unrhyw gais penodol yn ystod y cyfweliad.
Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i’n llwyddiant, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir sydd â’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hon. Rydym yn hapus i drafod unrhyw addasiadau rhesymol gallai fod eu hangen ar unigolion yn ystod y broses recriwtio, ar gychwyn y swydd, neu unwaith y byddant yn y swydd.