Gweithredwr Desg Reoli Ranbarthol
| Posting date: | 13 November 2025 |
|---|---|
| Salary: | £32,613 to £35,772 per year |
| Hours: | Full time |
| Closing date: | 26 November 2025 |
| Location: | Fishguard, Pembrokeshire |
| Remote working: | On-site only |
| Company: | Dyfed-Powys Police |
| Job type: | Permanent |
| Job reference: |
Summary
Heddlu
Heddlu Dyfed Powys
Math o rôl
Staff Heddlu
Maes Busnes / Adran
Plismona Gwrthderfysgaeth (yn cynnwys Porthladdoedd a'r Heddlu Arbennig)
Lleoliad
Abergwaun
Hyblyg/Sefydlog/Sefydlog a Gweithredol
Sefydlog a Gweithredol
Gradd
E
Cyflog
£32,613 - £35,772
Rhan/Llawn Amser
Llawn Amser
Oriau'r Wythnos
37
Math o Gytundeb
Parhaol
Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol?
1
Dyddiad cau
26/11/25 23:55
Disgrifiad Hysbysiad Swydd
Gwahoddir ceisiadau am swydd Gweithredwr Desg Reoli Ranbarthol o fewn Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru.
Bydd y daliwr swydd yn gyfrifol am ymchwilio systemau cudd-wybodaeth a darparu cymorth technegol a chlerigol i swyddogion porthladd yn y maes Gwrthderfysgaeth a gweithredu fel adnodd rhanbarthol i gefnogi swyddogaethau Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru.
Bydd angen teithio ledled rhanbarth Cymru.
Mae’n hanfodol bod yr ymgeisydd yn barod i gwblhau’r prosesau fetio’n llwyddiannus. Hefyd;
Bydd angen cwblhau proses sefydlu diogelwch ychwanegol yn llwyddiannus hefyd. Fel rhan o hyn, bydd angen gwiriadau cyn-sgrinio o genedlaetholdeb a chysylltiadau tramor. Rhaid pwysleisio bod hyn yn ychwanegol i fetio rheoli’r heddlu. Rhaid i ymgeiswyr sicrhau’r ddau gliriad er mwyn ymgymryd â’r swydd hon.
Ar gyfer y swydd hon, mae angen mynediad i’r deunydd cudd-wybodaeth mwyaf sensitif ar sail ddyddiol. Rhaid bod gan ymgeiswyr Fetio Diogelwch Cenedlaethol lefel Fetio Datblygedig, neu fod yn barod i ymgymryd â hyn cyn cychwyn y swydd.
Mae angen dinasyddiaeth Brydeinig ar gyfer y swydd hon (gall rhai gwladolion deuol fod yn anghymwys) a chliriad Fetio Datblygedig/Gwiriad Diogelwch Uwch.
Gan y bydd mynediad gan y daliwr swydd i wybodaeth sensitif iawn, mae cyfyngiadau o ran teithio i lond llaw o wledydd a byddwn ni’n cynnal gwiriadau diogelwch ychwanegol fel rhan o’r broses recriwtio. Gall gymryd llawer mwy o amser i brosesu ceisiadau sydd â chysylltiadau agos â rhai gwledydd penodol, ac mewn rhai achosion, tynnir y cynnig am swydd yn ôl. Rhoddir rhagor o fanylion yn ystod y cam cynnig amodol.
Os ydych chi’n credu bod gennych chi’r sgiliau a’r angerdd ar gyfer y swydd hon, cliciwch y ddolen isod i weld y proffil swydd. Os ydych chi’n credu mai hon yw’r swydd i chi, cwblhewch ffurflen gais, gan roi tystiolaeth yn erbyn y cymwysterau gofynnol (sydd ar dudalen olaf y proffil swydd fel arfer).
Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr a atodir isod, sy’n rhoi mwy o fanylion ynglŷn â sut i gwblhau’ch cais.
https://www.dyfed-powys.police.uk/SysSiteAssets/media/downloads/dyfed-powys/careers/guidance-Documents/police-staff-attainments-welsh-.pdf
Beth allwch chi ddisgwyl?
Bydd gan bob dechreuwr newydd gyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno
24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus
24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle
Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)
Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas
Cynllun Beicio i’r Gwaith
Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi
Cynllun pensiwn
Rhwydweithiau Cymorth Staff
Cyfleoedd gweithio hyblyg
Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael
Darpariaethau tâl salwch
Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.
Bydd y cyflog ar gyfer unrhyw swyddi gwag rhan amser ar sail pro rata.
Amrywiaeth a’r Gymraeg
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.
Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.
Cliciwch fan hyn i weld pa un ai a ydych chi’n gymwys ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol ai peidio.
Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Pwynt gwybodaeth:
Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recruitment@dyfed-powys.police.uk
Neu ymunwch â’n digwyddiad recriwtio galw heibio wythnosol ar ddydd Mercher o 11y.b. – 11:30y.b. fan hyn.