Tiwtoriaid Cwnsela
| Dyddiad hysbysebu: | 12 Tachwedd 2025 |
|---|---|
| Cyflog: | £30.76 yr awr |
| Oriau: | Rhan Amser |
| Dyddiad cau: | 26 Tachwedd 2025 |
| Lleoliad: | Wrexham, Wales |
| Gweithio o bell: | Ar y safle yn unig |
| Cwmni: | Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales |
| Math o swydd: | Cytundeb |
| Cyfeirnod swydd: | Tiwtoriaid Cwnsela 11.25 |
Crynodeb
Tiwtoriaid Cwnsela
Cytundeb: Tâl fesul yr awr, Cyfnod penodol
Oriau: Rhan-amser, oriau amrywiol
Graddfa Cyflog: Tâl fesul yr awr, £30.76 yr awr (dyfarniad cyflog blynyddol yn yr arfaeth)
Lleoliad: Wrecsam
Mae gennym gyfle gwych ar gyfer tiwtoriaid gymwysedig a medrus i gyflwyno cyrsiau Cwnsela CPCAB Lefel 2, 3 & 4 i ddysgwyr yn ardal Wrecsam. Byddwch yn cynllunio, datblygu, cyflwyno, gwerthuso ac asesu cyrsiau a rhaglenni dysgu yn unol ag anghenion dysgwyr ac Gweithdrefnau Ansawdd Addysg Oedolion Cymru, i gefnogi cyflwyno dysgu o ansawdd uchel.
Mae rôl Tiwtor yn rôl amrywiol, ymarferol lle byddwch yn gweithio’n annibynnol yn ogystal â gyda thîm y rhanbarth.
Byddwch yn gyfrifol am (ond nid yn gyflawn):
• Cynllunio a pharatoi cyrsiau – paratoi cynlluniau gwersi a chynlluniau gwaith. Dewis deunyddiau dysgu ac ystod o ddulliau dysgu i ddiwallu anghenion y dysgwr.
• Cefnogi dysgwyr – Asesu profiadau dysgu blaenorol a chyflawniadau dysgwyr, rhoi cyngor ac arweiniad priodol iddynt, a sicrhau bod dysgwyr yn ymwybodol o’u llwybrau dilyniant.
• Cyffredinol – ymgymryd â thasgau gweinyddol yn unol â rheoliadau ar gyfer cyllido Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales. Mynychu cyfarfodydd tiwtor perthnasol, briffiau ansawdd a chyfarfodydd achredu / safoni perthnasol.
Os oes gennych y sgiliau cywir, ac eisiau gweithio mewn maes hynod werth chweil lle mae eich gweithredoedd yn gwneud gwahaniaeth i bobl ledled Cymru, yna byddem wrth ein bodd yn derbyn eich cais.
Ymgeisiwch erbyn 12.00yh Dydd Mercher 26ain Tachwedd 2025 gan ddefnyddio'r ffurflen gais ar gael ar wefan Addysg Oedolion Cymru - nodwch n ad ydym yn derbyn CV. Ceir rhagor o fanylion am y rôl ynghyd â manyleb swydd a person yn y pecyn cais.
Proses Dethol a Recriwtio
Fel rhan o'r broses gyfweld gofynnir i chi gyflwyno sesiwn meicroaddysgu 15 munud, a darparu cynllun gwers, cynllun gwaith, ac unrhyw adnoddau ar gyfer y sesiwn hon.
Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei weithlu dwyieithog. Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn y naill iaith neu'r llall yn cael eu trin yn gyfartal.
Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i’n llwyddiant, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir sydd â’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hon.
Rydym yn hapus i drafod unrhyw addasiadau rhesymol gallai fod eu hangen ar unigolion yn ystod y broses recriwtio, ar gychwyn y swydd, neu unwaith y byddant yn y swydd.