Cynorthwyydd Marchnata a Chyfathrebu
| Dyddiad hysbysebu: | 11 Tachwedd 2025 |
|---|---|
| Cyflog: | £28,672 i £31,541 bob blwyddyn |
| Oriau: | Llawn Amser |
| Dyddiad cau: | 21 Tachwedd 2025 |
| Lleoliad: | Bangor, Gwynedd |
| Gweithio o bell: | Hybrid - gweithio o bell hyd at 5 ddiwrnod yr wythnos |
| Cwmni: | Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales |
| Math o swydd: | Parhaol |
| Cyfeirnod swydd: | Cynorthwyydd Marchnata a Chyfathrebu 11.25 |
Crynodeb
Cynorthwyydd Marchnata a Chyfathrebu
Llawn amser 35 awr yr wythnos
(gellir ystyried ceisiadau i rannu swydd neu rhan amser)
Parhaol
Graddfa Cyflog: £28,672 - £31,541 y flwyddyn (dyfarniad cyflog blynyddol yn yr arfaeth)
Yn ogystal â phecyn gwyliau a buddianau hael
Ymunwch gyda Ni yn Addysg Oedolion Cymru – Lle Mae Dysgu’n Trawsnewid Bywydau
Yn Addysg Oedolion Cymru, credwn fod addysg yn arf pwerus ar gyfer trawsnewid personol a chymunedol. Fel prif ddarparwr Cymru ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned, rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd dysgu hygyrch o ansawdd uchel sy’n grymuso unigolion i wireddu eu potensial a chyfrannu’n gadarnhaol at gymdeithas. Ein cenhadaeth yw hyrwyddo dysgu gydol oes ac ehangu mynediad at ddysgu a sgiliau, gan feithrin amgylchedd cynhwysol a chefnogol lle gall pawb ffynnu.
Rydym yn falch o'n gwerthoedd a'n hethos, sydd wedi'u gwreiddio mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a pharch. Gwerthfawrogwn ein staff fel ein hased mwyaf ac rydym yn ymroddedig i greu gweithle cadarnhaol, cydweithredol a deinamig lle mae pob aelod o'r tîm yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, ei gefnogi a'i ysgogi i gyflawni ei orau.
Y Rôl: Cynorthwyydd Marchnata a Chyfathrebu
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno gyda ni fel ein Cynorthwyydd Marchnata a Chyfathrebu, gan ei fod yn gyfle i ddefnyddio eich creadigrwydd i drawsnewid a llunio ein hymgysylltiad gyda dysgwyr, aelodau a rhanddeiliaid, ac i godi ein proffil fel darparwr cenedlaethol dysgu cymunedol i oedolion yng Nghymru o fewn ein cymunedau, a hefyd yn fasnachol.
Byddwch yn chwarae rhan hanfodol o fewn y sefydliad, ynghyd â chefnogi'r Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu i gyflawni strategaeth farchnata'r sefydliad. Byddwch yn allweddol i gefnogi ein timau cwricwlwm drwy hyrwyddo ein cynnig cwricwlwm yn effeithiol ar draws sianeli lluosog, gan gynnwys llwyfannau digidol a chyfryngau cymdeithasol.
Os ydych yn mwynhau gweithio gyda phobl mewn amgylchedd gwaith cyflym, amrywiol a gwerth chweil gyda’r rhyddid i ddefnyddio'ch sgiliau creadigol, dyma'r cyfle perffaith i ymuno gyda ni wrth i ni ddatblygu dull cyffrous ac arloesol i'r gweithgareddau marchnata a'n cynnig aelodaeth.
Rydym wedi ymrwymo i adeiladu gweithle amrywiol a chynhwysol lle mae pob llais yn cael ei glywed a'i werthfawrogi. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir, profiad a phersbectif i ymgeisio.
Sut i wneud cais
Ymgeisiwch erbyn 12:00 Dydd Gwener 21ain Tachwedd gan ddefnyddio'r ffurflen gais ar gael ar wefan Addysg Oedolion Cymru - nodwch n ad ydym yn derbyn CV. Ceir rhagor o fanylion am y rôl ynghyd â manyleb swydd a person yn y pecyn cais.
Cyfweliadau i'w trefnu yn ystod yr wythnos yn dechrau 8fed Rhagfyr.
Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei weithlu dwyieithog. Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn y naill iaith neu'r llall yn cael eu trin yn gyfartal.
Croesawn geisiadau a ddymunir cael eu hystyried ar gyfer (ond heb fod yn gyfyngedig i) gweithio'n rhan-amser a threfniadau rhannu swydd. Gellir trafod unrhyw gais penodol yn ystod y cyfweliad.
Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i’n llwyddiant, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir sydd â’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hon. Rydym yn hapus i drafod unrhyw addasiadau rhesymol gallai fod eu hangen ar unigolion yn ystod y broses recriwtio, ar gychwyn y swydd, neu unwaith y byddant yn y swydd.