Dewislen

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 1

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 08 Hydref 2025
Cyflog: Heb ei nodi
Gwybodaeth ychwanegol am y cyflog: Gradd 2 PCG 3 - 5 £24,796 - £25,583 (Pro Rata)
Oriau: Rhan Amser
Dyddiad cau: 25 Hydref 2025
Lleoliad: Duffryn, Newport, NP10 8BX
Gweithio o bell: Ar y safle yn unig
Cwmni: eTeach UK Limited
Math o swydd: Parhaol
Cyfeirnod swydd: 1512735

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Mae Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yng Nghasnewydd. Mae wedi’i leoli wrth ymyl Parc Tredegar, 20 munud o Gaerdydd a 5 munud o’r M4. Mae ein dysgwyr yn dod o ardal unigryw o ran hanes a diwylliant ac rydym yn hynod o falch ein bod yn ran o’r tŵf yn y Gymraeg yma yn Ne Ddwyrain Cymru. Rydym yn ysgol gyfeillgar a chynhwysol yn ôl adroddiad Estyn 2022, ac rydym yn ymfalchio yn ein ethos o ddisgwyliadau uchel ar gyfer holl gymuned yr ysgol. Mae ein gwerthoedd craidd yn cynnwys bod yn uchelgeisiol ar gyfer pob unigolyn yn yr ysgol, creu cymuned hapus lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn ac yn parchu ei gilydd a datblygu dysgwyr i fod yn unigolion hyderus sy’n arddel eu Cymreictod. Rydym yn awyddus i benodi cynorthwyydd dosbarth brwd, egnîol a deallus a fydd yn cyfrannu’n llawn i wireddu gweledigaeth yr ysgol. Mae hwn yn gyfle arbennig i fod yn ran o dîm gweithgar a brwdfrydig sy’n angerddol dros sicrhau’r addysg o’r safon uchaf ar gyfer ein holl ddysgwyr. Mae Ysgol Gyfun Gwent is Coed wedi ymrwymo i ddatblygu dysgu proffesiynol parhaus holl staff yr ysgol a sicrhau bod pob aelod o gymuned yr ysgol yn derbyn profiadau ardderchog. Gwahoddir ymgeiswyr i gychwyn cyn gynted â phosibl. Cyflog ar gyfer y swydd uchod: Gradd 2
Dyddiad cau: Dydd Gwener y 24ain o Hydref 2025

Gwneud cais am y swydd hon