Administrative Officer – Ysgol T. Llew Jones Primary School
Dyddiad hysbysebu: | 30 Medi 2025 |
---|---|
Cyflog: | £25,185 bob blwyddyn, pro rata |
Oriau: | Rhan Amser |
Dyddiad cau: | 03 Hydref 2025 |
Lleoliad: | Llandysul, Ceredigion |
Gweithio o bell: | Ar y safle yn unig |
Cwmni: | Cyngor Sir Ceredigion County Council |
Math o swydd: | Dros dro |
Cyfeirnod swydd: | REQ106243 |
Crynodeb
Lleolir Ysgol T Llew Jones, ym mhentref Brynhoffnant, Ceredigion. Mae tua 150 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol. Mae’r ysgol yn sefydliad hapus, a chyfeillgar gyda’r disgyblion yn ganolog i holl weithgareddau’r ysgol. Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig, egniol â threfnus i ymuno a thîm llwyddiannus. O dan gyfarwyddyd/arweiniad y Pennaeth ar Uwch Dîm, byddwch yn darparu cefnogaeth weinyddol/gyllidol gyffredinol i’r ysgol.
Gweler ein gwefan gyrfaoedd am y Disgrifiad Swydd a Manyleb Person.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd