Dewislen

Swyddog Clercyddol Asesu a Data / Assessment and Data Clerical Officer

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 25 Medi 2025
Oriau: Llawn Amser
Dyddiad cau: 16 Hydref 2025
Lleoliad: LL57 2DG
Gweithio o bell: Ar y safle yn unig
Cwmni: Bangor University
Math o swydd: Parhaol
Cyfeirnod swydd: BU03875

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

PRIFYSGOL BANGOR

YSGOL FEDDYGOL GOGLEDD CYMRU

Swyddog Clercyddol Asesu a Data (2 swydd)

(Cyf: BU03875)

Cyflog: £24,344 - £26,338 y flwyddyn (Graddfa 4)

Gwahoddir ceisiadau am ddwy swydd weinyddol barhaol, llawn amser yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru. Mae'r swyddi hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi’r gwaith o gyflwyno ein rhaglenni Meddygaeth a Fferylliaeth yn llwyddiannus.

Bydd deiliad y swydd yn darparu cefnogaeth weinyddol hanfodol ar draws ystod o feysydd, gyda phwyslais sylfaenol ar asesiadau, gan gynnwys arholiadau ymarfer clinigol ac asesiadau ysgrifenedig. Mae hon yn swydd amrywiol sy'n gofyn am hyblygrwydd i gyfrannu at feysydd eraill o ddarpariaeth rhaglenni yn ôl yr angen.

Mae cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys rheoli amrywiaeth o dasgau gweinyddol i gefnogi anghenion gweithredol a gwasanaeth cwsmeriaid. Mae Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn chwilio am unigolion hynod drefnus a all reoli llwyth gwaith amrywiol a heriol.

Dylai ymgeiswyr fod wedi cael addysg hyd at lefel TGAU neu NVQ Lefel II mewn pwnc perthnasol, neu ddangos profiad cyfatebol. Dylai ymgeiswyr feddu ar sgiliau trefnu a gweinyddu rhagorol a gallu dangos cywirdeb a sylw i fanylion.

Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig yn hanfodol i'r swydd hon.

Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Ystyrir ceisiadau i weithio yn y swydd hon ar sail ran amser neu rannu swydd.

Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Fodd bynnag, os cewch drafferth defnyddio'r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: 16 Hydref 2025

Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu â’r canlynol: Llinos M Jones, Swyddog Asesu a Data: llinos.m.jones@bangor.ac.uk.

Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal

---------------------

BANGOR UNIVERSITY

NORTH WALES MEDICAL SCHOOL

Assessment and Data Clerical Officer (2 posts)

(Ref: BU03875)

Salary: £24,344 - £26,338 p.a. (Grade 4)

Applications are invited for two permanent, full-time administrative positions within the North Wales Medical School. These roles play a vital part in supporting the successful delivery of our Medicine and Pharmacy programmes.

The role holder will provide essential administrative support across a range of areas, with a primary focus on assessments, including clinical practice examinations and written assessments. This is a varied role requiring flexibility to contribute to other areas of programme delivery as needed.

Key responsibilities include managing a range of administrative tasks to support operational and customer service needs. The North Wales Medical School is looking for highly organised individuals who can manage a varied and demanding workload.

Candidates should be educated to GCSE level or NVQ level II in a relevant subject, or demonstrate equivalent experience. Candidates should have excellent organisational and administrative skills and be able to demonstrate accuracy and attention to detail.

The ability to communicate through the medium of Welsh, both verbally and in writing, is essential for this role.

The post will be located on campus at Bangor. Applications to carry out this role on a part-time or job share basis will be considered.

Applications will only be accepted via our on-line recruitment website, jobs.bangor.ac.uk. However, in cases of access issues due to disability, paper application forms are available by telephoning 01248 383865.

Closing date for applications: 16 October 2025

Informal enquiries can be made by contacting: Llinos M Jones, Assessment and Data Officer: llinos.m.jones@bangor.ac.uk.

Committed To Equal Opportunities

Gwneud cais am y swydd hon