Dewislen

Swyddog Cymorth Ymchwiliadau

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 17 Medi 2025
Cyflog: £24,675 i £26,106 bob blwyddyn
Gwybodaeth ychwanegol am y cyflog: Canran Sifft 14%, Canran Sifft Gweithio Penwythnosau 12.03%
Oriau: Llawn Amser
Dyddiad cau: 06 Hydref 2025
Lleoliad: SA31 2PD
Gweithio o bell: Ar y safle yn unig
Cwmni: Dyfed-Powys Police
Math o swydd: Parhaol
Cyfeirnod swydd:

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Heddlu Heddlu Dyfed Powys
Math o rôl Staff Heddlu
Maes Busnes / Adran Hyb Troseddau a Digwyddiadau
Lleoliad Pencadlys
Hyblyg/Sefydlog/Sefydlog a Gweithredol Sefydlog
Gradd C
Cyflog £24,675 - £26,106
Lwfansau Sifft, Gweithio Penwythnos
Canran Sifft 14%
Canran Sifft Gweithio Penwythnosau 12.03%
Rhan/Llawn Amser Llawn Amser
Oriau'r Wythnos 37
Math o Gytundeb Parhaol
Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol? 1
Dyddiad Cyfweliad 16 Hydref 2025
Dyddiad cau 06/10/25 23:55

Disgrifiad Hysbysiad Swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Swyddog Cymorth Ymchwiliadau.

Rydym yn chwilio am unigolion sydd â sgiliau cyfathrebu da i ymdrin ag ymholiadau gan amryw o bobl, dros y ffôn neu drwy gyfryngau electronig, ac sydd hefyd â’r gallu i gofnodi digwyddiadau yr adroddir amdanynt yn gywir ac ymchwilio iddynt.

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Byddwch chi’n cydbwyso tasgau ymchwiliol mewn perthynas â throseddau niferus a blaenoriaethol, ymddygiad gwrthgymdeithasol a materion eraill yr adroddir amdanynt, i ddarparu ymateb o’r radd flaenaf i’r cyhoedd, gan gwblhau’r canlyniadau addas.

Disgwylir ichi:

Asesu perygl a nodi’r camau priodol ar gyfer datrys neu bennu’r asiantaeth briodol, graddio lleoliadau a blaenoriaethu cysylltiadau.
Hysbysu’r galwr/adroddwr y digwyddiad am y cynllun neu’r canlyniad, gan sicrhau’r safon uchaf o ran diogelu a gwasanaeth.
Cynnal lefelau gwasanaeth cwsmeriaid uchel, rheoli disgwyliadau cwsmeriaid a bodloni cytundebau lefel gwasanaeth cenedlaethol a sefydliadol, a chymryd camau ymateb priodol.
Nodi diben a natur pob cyswllt drwy gael gwybodaeth berthnasol a digonol i alluogi asesiad amserol a chywir o ddulliau datrys priodol.
Mae’r rôl hon mewn lleoliad sefydlog, wedi’i lleoli ym Mhencadlys Heddlu Dyfed-Powys yng Nghaerfyrddin. Disgwylir ichi weithio sifftiau sy’n amrywio o 7 o’r gloch y bore tan hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos).

Mae’r cyflog yn dechrau ar £24,675 ac yn codi i £26,106 dros dair blynedd. Bydd lwfansau perthnasol ar gyfer gweithio sifftiau a gweithio ar benwythnosau’n daladwy yn ogystal â hyn.

Os ydych chi’n credu bod gennych chi’r sgiliau a’r angerdd ar gyfer y swydd hon, cliciwch y ddolen isod i weld y proffil swydd. Os ydych chi’n credu mai hon yw’r swydd i chi, cwblhewch ffurflen gais, gan roi tystiolaeth yn erbyn y cymwysterau gofynnol (sydd ar dudalen olaf y proffil swydd fel arfer).

Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr a atodir isod, sy’n rhoi mwy o fanylion ynglŷn â sut i gwblhau’ch cais.

Beth allwch chi ddisgwyl?

Bydd gan bob dechreuwr newydd gyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno
24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus
24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle
Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)
Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas
Cynllun Beicio i’r Gwaith
Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi
Cynllun pensiwn
Rhwydweithiau Cymorth Staff
Cyfleoedd gweithio hyblyg
Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael
Darpariaethau tâl salwch
Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.

Bydd y cyflog ar gyfer unrhyw swyddi gwag rhan amser ar sail pro rata.

Cynhelir cyfweliadau:  16/10/2025 - 17/10/2025

https://www.dyfed-powys.police.uk/SysSiteAssets/media/downloads/dyfed-powys/careers/guidance-Documents/police-staff-attainments-welsh-.pdf

Amrywiaeth a’r Gymraeg

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.

Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.

Cliciwch fan hyn i weld pa un ai a ydych chi’n gymwys ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol ai peidio.

Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Pwynt gwybodaeth:

Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recruitment@dyfed-powys.police.uk

Neu ymunwch â’n digwyddiad recriwtio galw heibio wythnosol ar ddydd Mercher o 11y.b. – 11:30y.b. fan hyn.

Gwneud cais am y swydd hon