Dewislen

Tiwtor Codi Hyder

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 10 Medi 2025
Cyflog: £34,610.00 i £39,900.00 bob blwyddyn
Oriau: Rhan Amser
Dyddiad cau: 24 Medi 2025
Lleoliad: Pontypridd, Rhondda Cynon Taff
Gweithio o bell: Hybrid - gweithio o bell hyd at 3 ddiwrnod yr wythnos
Cwmni: University of South Wales
Math o swydd: Dros dro
Cyfeirnod swydd: R5337

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Ymgeiswyr Adleoli, cwblhewch y ffurflen gais adleoli sydd ynghlwm wrth yr hysbyseb hon.


Mae Dysgu Cymraeg Morgannwg (Prifysgol De Cymru) yn darparu cyrsiau Cymraeg i Oedolion ar bob lefel gan gynnwys cyrsiau wythnosol, dwys, bloc, Cymraeg yn y Cartref a chyrsiau Cymraeg Gwaith. Mae Dysgu Cymraeg Morgannwg yn chwilio am ddau diwtor llawn amser ar gyfer Cymraeg Gwaith i ddysgu amserlen llawn o wersi gan gynnwys 2 noson ac i ymuno â thîm o diwtoriaid talentog a brwdfrydig.



Cynhelir y dosbarthiadau ar lein ac mewn sefydliadau ar draws rhanbarth Rhondda Cynon Taf, Merthyr a Phenybont.



Disgwylir i ddeiliaid y swydd weithio’n drefnus, meddu ar sgiliau rhyngbersonol a sgiliau technoleg gwybodaeth effeithiol a meddu ar gymhwyster dysgu.



Mae hon yn swydd llawn amser am gyfnod penodol o flwyddyn yn y lle cyntaf.



Mae'r brifysgol yn gweithredu model gweithio hybrid ar hyn o bryd. Fodd bynnag, bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio ar y campws o bryd i’w gilydd ym Mhontypridd.



Am sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Catherine Stephens, Pennaeth Dysgu Cymraeg Morgannwg catherine.stephens@decymru.ac.uk / 01443 483600 / 07909525464



Darganfyddwch fanteision gweithio i PDC: https://tinyurl.com/PSSynPDC



Os ydych yn ymgeisydd llwyddiannus a’r swydd hon fydd eich rôl gwasanaethau proffesiynol gyntaf yn y Brifysgol (neu os ydych yn cael eich cyflogi gan PSS Ltd ar hyn o bryd), byddwch yn cael eich cyflogi gan Professional and Support Services Limited, is-gwmni sy’n eiddo llwyr i Brifysgol De Cymru, sy’n darparu gwasanaethau i’r Brifysgol a’r Colegau.



Mae Prifysgol De Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Disgwylir i bawb sy'n gweithio yn y Brifysgol rannu'r ymrwymiad hwn.



Rydym wedi ymrwymo i gyflogi gweithlu amrywiol a chreu amgylchedd cynhwysol. Lle gall cydweithwyr fod yn nhw eu hunain a phob person yn cael ei drin ag urddas, tegwch a pharch. Rydym yn annog ceisiadau o gefndiroedd a chymunedau amrywiol, yn enwedig o ran oedran, anabledd, hunaniaeth rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, hil a chrefydd a/neu gred. Rydym yn meincnodi ein llwyddiant trwy achrediadau cydraddoldeb gydag Athena Swan, Siarter Cydraddoldeb Hil, Stonewall a Hyderus o ran Anabledd.



Os ydych chi’n ddysgwr Cymraeg neu’n siarad Cymraeg, byddwn ni’n falch o dderbyn eich cais. Bydd gennych fynediad i gyrsiau Cymraeg i’ch galluogi i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg ymhellach, er mwyn darparu gwasanaeth dwyieithog i’n myfyrwyr, cydweithwyr a’r cyhoedd.


Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd

Hyderus o ran Anabledd
Yn gyffredinol, bydd cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn cynnig cyfweliad i unrhyw ymgeisydd sy'n datgan eu bod yn anabl ac yn bodloni'r meini prawf lleiaf ar gyfer y swydd fel y diffinnir gan y cyflogwr. Mae'n bwysig nodi, mewn rhai sefyllfaoedd recriwtio fel nifer fawr o ymgeiswyr, cyfnod tymhorol ac amseroedd prysur iawn, efallai y bydd y cyflogwr am gyfyngu ar y niferoedd cyffredinol o gyfweliadau a gynigir i bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl. Am fwy o fanylion ewch i Hyderus o ran Anabledd.

Gwneud cais am y swydd hon