Dewislen

CP I'R UWCH DÎM RHEOLI

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 05 Medi 2025
Cyflog: £32,597 i £33,699 bob blwyddyn
Oriau: Llawn Amser
Dyddiad cau: 26 Medi 2025
Lleoliad: CF72 8LX, Llantrisant
Gweithio o bell: Hybrid - gweithio o bell hyd at 2 ddiwrnod yr wythnos
Cwmni: South Wales Fire and Rescue Service
Math o swydd: Parhaol
Cyfeirnod swydd:

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Cododd y swydd wag uchod o fewn Pencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a leolir ym Mharc Busnes Forest View, Llantrisant. Rydym yn chwilio am berson hynod fedrus a phrofiadol i weithio o fewn ein Huned Cymorth Busnes. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymryd ag ystod o ddyletswyddau sy'n gymesur â rôl CP i'r Tîm Arwain Gweithredol a'r Uwch Dîm Rheoli.

Efallai bydd y rôl hon yn cynnwys rhywfaint o deithio rhwng safleoedd ar draws ardal De Cymru. Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus allu teithio'n annibynnol.Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â phrofiad priodol yn unol ag amlinelliad y Fanyleb Person. Mae pob penodiad yn amodol ar wiriad trwydded yrru, prawf alcohol a chyffuriau ac asesiad meddygol.Nodwch fod hon yn broses hynod gystadleuol a dim ond y rhai hynny sydd wedi arddangos tystiolaeth yn erbyn pob un o'r meini prawf hanfodol ar y Fanyleb Person fydd yn camu ymlaen i'r broses ddethol.

Gwneud cais am y swydd hon