Swyddog Uned Gyfeirio Ganolog
Dyddiad hysbysebu: | 27 Awst 2025 |
---|---|
Cyflog: | £27,747 i £29,649 bob blwyddyn |
Oriau: | Llawn Amser |
Dyddiad cau: | 08 Medi 2025 |
Lleoliad: | Carmarthen, Carmarthenshire |
Gweithio o bell: | Hybrid - gweithio o bell hyd at 3 ddiwrnod yr wythnos |
Cwmni: | Dyfed-Powys Police |
Math o swydd: | Parhaol |
Cyfeirnod swydd: |
Crynodeb
Heddlu Heddlu Dyfed Powys
Math o rôl Staff Heddlu
Maes Busnes / Adran Uned Gyfeirio Ganolog
Lleoliad Caerfyrddin, Pencadlys
Hyblyg/Sefydlog/Sefydlog a Gweithredol Hyblyg
Gradd D
Cyflog £27,747 - £29,649
Rhan/Llawn Amser Llawn Amser
Oriau'r Wythnos 37
Math o Gytundeb Parhaol
Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol? 1
Dyddiad Cyfweliad 18 Medi 2025
Dyddiad cau 08/09/25 23:55
Disgrifiad Hysbysiad Swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Swyddog Uned Gyfeirio Ganolog yn Adran Ymchwiliadau Troseddol.
Beth fyddwch chi’n ei wneud?
Darparu cymorth clerigol ar gyfer yr Uned Diogelu’r Cyhoedd. Bod yn bwynt cyswllt gydag asiantaethau allanol a mewnol. Cynnal cofnodion a darparu gwybodaeth ystadegol.
Sicrhau bod holl wybodaeth yr heddlu’n cael ei phrosesu ar gyfer diben blismona yn unol â deddfwriaethau a chanllawiau.
Mewnbynnu ac adalw gwybodaeth gan ddefnyddio systemau heddlu lleol a chenedlaethol er mwyn sicrhau bod cofnodion yn cael eu prosesu’n gywir, cymesur ac amserol, yn unol â gofynion deddfwriaethol lleol a chenedlaethol.
Chwilio am wybodaeth, ac adalw gwybodaeth, sy’n cael ei dal ar systemau heddlu lleol a chenedlaethol ac asesu ei pherthnasedd i ymchwiliadau ac ymholiadau Diogelu’r Cyhoedd Heddlu Dyfed-Powys. Mae hyn yn cynnwys Cronfa Ddata Genedlaethol yr Heddlu ac ymholiadau mae hyn yn cynnwys Cronfa Ddata Genedlaethol yr Heddlu, Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu a VISOR.
Rhoi’r wybodaeth berthnasol i swyddogion goruchwyliol a chofnodi pob cam o’r broses.
Os ydych chi’n credu bod gennych chi’r sgiliau a’r angerdd ar gyfer y swydd hon, cliciwch y ddolen isod i weld y proffil swydd. Os ydych chi’n credu mai hon yw’r swydd i chi, cwblhewch ffurflen gais, gan roi tystiolaeth yn erbyn y cymwysterau gofynnol (sydd ar dudalen olaf y proffil swydd fel arfer).
Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr a atodir isod, sy’n rhoi mwy o fanylion ynglŷn â sut i gwblhau’ch cais.
https://www.dyfed-powys.police.uk/SysSiteAssets/media/downloads/dyfed-powys/careers/guidance-Documents/police-staff-attainments-welsh-.pdf
Beth allwch chi ddisgwyl?
Bydd gan bob dechreuwr newydd gyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno
24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus
24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle
Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)
Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas
Cynllun Beicio i’r Gwaith
Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi
Cynllun pensiwn
Rhwydweithiau Cymorth Staff
Cyfleoedd gweithio hyblyg
Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael
Darpariaethau tâl salwch
Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.
Bydd y cyflog ar gyfer unrhyw swyddi gwag rhan amser ar sail pro rata.
Amrywiaeth a’r Gymraeg
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.
Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.
Cliciwch fan hyn i weld pa un ai a ydych chi’n gymwys ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol ai peidio.
Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Pwynt gwybodaeth:
Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recruitment@dyfed-powys.police.uk
Neu ymunwch â’n digwyddiad recriwtio galw heibio wythnosol ar ddydd Mercher o 11y.b. – 11:30y.b. fan hyn.