Assistant Infrastructure Engineer x2
Dyddiad hysbysebu: | 18 Awst 2025 |
---|---|
Oriau: | Llawn Amser |
Dyddiad cau: | 01 Medi 2025 |
Lleoliad: | Conwy, Conwy County |
Gweithio o bell: | Hybrid - gweithio o bell hyd at 2 ddiwrnod yr wythnos |
Cwmni: | Conwy County Borough Council |
Math o swydd: | Parhaol |
Cyfeirnod swydd: | REQ006761 |
Crynodeb
Peiriannydd Isadeiledd Cynorthwyol - Ydych chi’n barod i adeiladu dyfodol Conwy?
Rydym yn chwilio am unigolyn llawn cymhelliant a threfnus i ymuno â’n Tîm Ymgynghoriaeth prysur. Fel Peiriannydd Isadeiledd Cynorthwyol, fe fydd gennych rôl allweddol i ddarparu ystod eang o brosiectau sifil, strwythurol ac adeiladu ledled y Sir - prosiectau sy’n gwneud gwir wahaniaeth i’n cymunedau.
O bontydd ac isadeiledd llifogydd i estyniadau ysgolion ac adeiladau newydd gwerth miliynau o bunnoedd, fe fyddwch yn cefnogi ein Peirianwyr Isadeiledd i lunio’r amgylchedd adeiledig dan safonau ansawdd, amgylcheddol ac iechyd a diogelwch achrededig.
Fe fyddwch yn cynorthwyo i baratoi arolygon safle ac ymchwiliadau, amserlenni gwaith a darluniau dylunio manwl gan ddefnyddio AutoCAD.
Bydd cyfle i chi ddechrau, neu ddatblygu eich cymwysterau proffesiynol gyda Sefydliad Siartredig Adeiladau neu Sefydliad y Peirianwyr Sifil.
Pam ymuno â ni?
Bod yn rhan o dîm cefnogol a dynamig.
Byddwch yn cyfrannu tuag at brosiectau ystyrlon a fydd yn elwa cymunedau ar draws Gogledd Cymru
Mwynhewch drefniadau gweithio hyblyg a hybrid.
Cyfleoedd i chi ddatblygu eich cymwysterau proffesiynol gyda Sefydliad Siartredig Adeiladau neu Sefydliad y Peirianwyr Sifil.
Amgylchedd cefnogol sy’n canolbwyntio ar ddatblygu, cynhwysiant ac arloesi.
Byddwch hefyd yn cael:
26 diwrnod o wyliau blynyddol + gwyliau banc
Cynllun pensiwn hael
Dewisiadau gweithio’n hyblyg a hybrid
Aelodaeth Ffit Conwy gostyngedig fel rhan o Wobrau Conwy
….a llawer iawn mwy!
Os ydych chi’n angerddol am beirianneg ac eisiau helpu i lunio dyfodol isadeiledd Conwy, byddem wrth ein boddau’n clywed gennych chi.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Gwyn Parry, Rheolwr Ymgynghoriaeth Isadeiledd ( gwyn.parry@conwy.gov.uk / 01492 575365)
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Work base: Coed Pella, Hybrid
Assistant Infrastructure Engineer - Are you ready to build the future of Conwy?
We’re looking for a highly motivated and an organised individual to join our busy Consultancy Team. As an Assistant Infrastructure Engineer, you’ll play a key role in delivering a wide range of civil, structural, and building projects across the County - projects that make a real difference to our communities.
From bridges and flood infrastructure to school extensions and multi-million-pound new builds, you’ll support our Infrastructure Engineers in shaping the built environment under accredited quality, environmental, and health and safety standards.
You will assist in the preparation of site surveys and investigations, schedules of work and detailed design drawings using AutoCAD.
There will be opportunities for you to embark on, or progress your professional qualifications with the Chartered Institute of Buildings or the Institution of Civil Engineers.
Why join us?
Be part of a supportive and dynamic team
Contribute to meaningful projects that benefit communities across North Wales
Enjoy flexible hybrid working arrangements.
Opportunities to progress your professional qualifications with the Chartered Institute of Buildings or the Institution of Civil Engineers.
A supportive environment focused on development, inclusion, and innovation.
You will also benefit from:
26 days annual leave + bank holidays
Generous pension scheme
Flexible and hybrid working options
Discounted Ffit Conwy membership via Conwy Rewards
….plus much more!
If you’re passionate about engineering and want to help shape the future of Conwy’s infrastructure, we’d love to hear from you.
This role offers flexible working options for a work life balance. This can include adjusting your working day and hybrid working, ie a balance of office and home working.
Manager details for informal discussion: Gwyn Parry, Infrastructure Consultancy Manager (gwyn.parry@conwy.gov.uk / 01492 575365)
Welsh Language Skills: The ability to communicate in Welsh is desirable for this post. We are committed to our Welsh language and are proud of our Welsh culture. We welcome applications in both Welsh and English and application forms received in either language will not be treated less favourably than each other. We’re passionate about supporting and encouraging you to use your Cymraeg whatever your level. We offer free classes at all levels, in-person and on-line to support you.
Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd