Administrative Assistant
Dyddiad hysbysebu: | 18 Awst 2025 |
---|---|
Oriau: | Llawn Amser |
Dyddiad cau: | 01 Medi 2025 |
Lleoliad: | Conwy County, Wales |
Gweithio o bell: | Hybrid - gweithio o bell hyd at 1 diwrnod yr wythnos |
Cwmni: | Conwy County Borough Council |
Math o swydd: | Dros dro |
Cyfeirnod swydd: | REQ006764 |
Crynodeb
Mae pob diwrnod yn wahanol ym maes gofal cymdeithasol plant. Mae canolfan asesu Bwthyn y Ddôl yn darparu gyrfaoedd a phrofiadau heriol a gwerthfawr yn seiliedig ar ein gwerthoedd o weithio gyda’n gilydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant er mwyn iddyn nhw ‘fyw’r bywyd gorau posib’.
Ydych chi’n drefnus ac yn amryddawn? Ydych chi’n aelod cefnogol o dîm? Ydych chi’n hyderus yn gweithio mewn amgylchedd prysur? Efallai mai dyma’r swydd ddelfrydol i chi!
Rydym ni wrthi’n chwilio am gynorthwy-ydd gweinyddol i fod yn rhan o dîm o staff a fydd yn darparu gwasanaeth preswyl cynhwysfawr i blant a phobl ifanc. Nod y tîm y byddwch yn ei gefnogi fydd sicrhau bod anghenion corfforol, cymdeithasol ac emosiynol y plant yn cael eu bodloni, a'u helpu gyda’u datblygiad a’u cadernid cyfannol o fewn lleoliad amlddisgyblaethol.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dilyn gyrfa ym maes cefnogi a gweinyddu busnes, mae hwn yn gyfle gwych a heriol i'r unigolyn cywir gael profiad yn y gwasanaethau cefnogi Gofal Cymdeithasol, yn gweithio mewn tîm prysur a deinamig yn darparu cefnogaeth uniongyrchol i Dîm Bwthyn y Ddôl.
Bydd deiliad y swydd yn helpu gyda thasgau gweinyddol dyddiol ac yn helpu’r Cydlynydd Busnes a’r tîm rheoli ehangach i gyfrannu at ddatblygiad parhaus yr uned, gan geisio cyfleoedd i wella darpariaeth y gwasanaeth a datblygu prosesau.
Bydd angen i chi fod â sgiliau gwrando, cofnodi a theipio cadarn a dylech fod yn frwd dros wneud gwahaniaeth. Oherwydd natur sensitif y meysydd gwasanaeth, bydd angen i chi hefyd fod â lefel uchel o wytnwch emosiynol a gonestrwydd, bod yn ddigynnwrf dan bwysau a gallu talu sylw i fanylion.
Mae hwn yn gyfle gwych, felly os ydych chi’n teimlo bod gennych chi’r sgiliau a’r profiad cywir yna, da chi, gwnewch gais. Byddem wrth ein boddau’n clywed gennych chi.
I gael mwy o wybodaeth a sgwrs anffurfiol am bob un o’r swyddi, cysylltwch â:
Joy Dunn, Rheolwr Tîm: 01492576394, joy.dunn@conwy.gov.uk;
Dawn Yorke, Cydlynydd Busnes, Gwasanaeth Plant sy’n Derbyn Gofal: 01492575307 dawn.yorke@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Work base: Bwthyn y Ddôl, Assessment Centre
When you work in children’s social care, no two days are ever the same. Our Bwthyn y Ddol assessment centre delivers careers and experiences that are challenging, rewarding, and differentiated by our values in working together to make a positive difference to the lives of children to ‘have the best life’ possible.
Are you organised & adaptable? A supportive team player? Are you confident in working in a busy environment? Then we could have the job for you!
We are currently recruiting an administrative assistant to be part of a staff team who will provide a comprehensive residential service to children and young people. The aim of the team you will be supporting will be to ensure the physical, social, and emotional needs of the children are met and to assist in their positive holistic development and resilience within a multi-disciplinary setting.
If you are interested in a career in business support and administration, this is an excellent and challenging opportunity for the right person to gain experience within Social Care support services, working in a busy and dynamic team providing direct support to the Bwthyn y Ddol Team.
The post holder will assist with day to day administration tasks and support the Business Co-Ordinator and the wider management team to contribute to the continued developments of the unit, seeking opportunities to enhance service delivery and process development.
You will need to have proven listening, recording, typing skills and a passion to making a difference. Due to the sensitive nature of the service areas, you’ll also need to have a high degree of emotional resilience and integrity, be calm under pressure and pay close attention to detail.
This is a great opportunity so, if you feel you have the right skills and experience please apply, we would really like to hear from you.
For further information and an informal discussion around each of the positions, please contact:
Joy Dunn Team Manager 01492 576394 , joy.dunn@conwy.gov.uk
Dawn Yorke, Business Co-Ordinator, Children Looked After Service, 01492 575307 dawn.yorke@conwy.gov.uk
Welsh Language Skills: The ability to communicate in Welsh is essential for this post. We are committed to our Welsh language and are proud of our Welsh culture. We welcome applications in both Welsh and English and application forms received in either language will not be treated less favourably than each other. We’re passionate about supporting and encouraging you to use your Cymraeg whatever your level. We offer free classes at all levels, in-person and on-line to support you.
Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd