Rheolwr Marchnata, Cyfathrebu a Digwyddiadau
Dyddiad hysbysebu: | 15 Awst 2025 |
---|---|
Oriau: | Llawn Amser |
Dyddiad cau: | 14 Medi 2025 |
Lleoliad: | Aberystwyth, Ceredigion |
Gweithio o bell: | Hybrid - gweithio o bell hyd at 5 ddiwrnod yr wythnos |
Cwmni: | Mudiad Meithrin Cyf |
Math o swydd: | Parhaol |
Cyfeirnod swydd: |
Crynodeb
Ydych chi’n berson sy’n angerddol dros y Gymraeg, yn arweinydd creadigol sy’n gallu ysbrydoli tîm ac arwain ymgyrchoedd marchnata strategol a threfnu digwyddiadau? Os felly, rydym am glywed gennych!
Mae Mudiad Meithrin yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, rhagweithiol a chydwybodol i arwain ar farchnata, cyfathrebu a digwyddiadau cenedlaethol. Byddwch yn gyfrifol am gynllunio a gweithredu strategaethau i hyrwyddo gwaith y Mudiad, trefnu digwyddiadau cenedlaethol a sicrhau presenoldeb cryf ar draws y cyfryngau cymdeithasol, y wasg a digwyddiadau cyhoeddus.
Beth rydym yn chwilio amdano?
Sgiliau cyfathrebu rhagorol yn Gymraeg a Saesneg (llafar ac ysgrifenedig)
Profiad o arwain tîm a rheoli prosiectau marchnata
Dealltwriaeth a phrofiad o’r holl blatfformau digidol a chymdeithasol
Brwdfrydedd dros genhadaeth y Mudiad i hyrwyddo addysg Gymraeg
Cymhwyster perthnasol neu brofiad cyfatebol
Pam ymuno â ni?
Gwyliau hael (hyd at 35 diwrnod + gŵyl banc + Dydd Gŵyl Dewi)
Cynllun pensiwn deniadol
Cyfleoedd hyfforddiant a datblygiad proffesiynol
Amgylchedd gwaith cynhwysol, croesawgar a chefnogol
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 4.30pm, dydd Llun 15 Medi 2025
Dyddiad cyfweld: 29 Medi 2025 yn Aberystwyth
Am sgwrs anffurfiol: Cysylltwch ag Iola Jones – iola@meithrin.cymru
Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd