Social Worker x2
Dyddiad hysbysebu: | 06 Awst 2025 |
---|---|
Oriau: | Llawn Amser |
Dyddiad cau: | 20 Awst 2025 |
Lleoliad: | Conwy, Conwy County |
Gweithio o bell: | Ar y safle yn unig |
Cwmni: | Conwy County Borough Council |
Math o swydd: | Parhaol |
Cyfeirnod swydd: | REQ006582 |
Crynodeb
Ymunwch â’n Tîm Brwdfrydig – Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn i Fywydau Pobl Ifanc!
Yma yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, rydym yn falch o fod yn awdurdod uchelgeisiol ac arloesol yng nghalon Gogledd Cymru. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn yn ein cymunedau.
Mae ein Gwasanaeth Anabledd Integredig yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol ymroddedig a charedig i ymuno â’n tîm bywiog, gan gefnogi plant a phobl ifanc hyd at 25 oed.
Mae hon yn fwy na swydd – mae’n gyfle i rymuso pobl ifanc ag anableddau i fyw bywydau llawn ac ystyrlon. Byddwch yn gweithio’n agos gyda theuluoedd, gweithwyr iechyd proffesiynol, a phartneriaid addysg i greu cynlluniau cymorth wedi’u teilwra sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau ac yn adlewyrchu’r hyn sy’n bwysig i bob unigolyn.
Fel Gweithiwr Cymdeithasol yn ein tîm, byddwch yn:
• Hyrwyddo dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan helpu pobl ifanc i ddatblygu eu potensial a chyflawni eu nodau.
• Bod yn rhan o wasanaeth gwirioneddol integredig, gan weithio law yn llaw ag Iechyd ac Addysg i ddarparu cymorth cyfannol.
• Llunio perthnasoedd cryfion a llawn ymddiriedaeth sy’n meithrin annibyniaeth, cynhwysiant a dewis.
• Ymuno â thîm sy’n gwerthfawrogi arloesedd, cydweithredu a charedigrwydd.
Rydym yn chwilio am rywun gyda gweledigaeth, egni ac empathi - rhywun sy’n credu yng ngrym posibiliadau ac sy’n barod i helpu llunio dyfodol mwy disglair.
Pam Ymuno â Ni?
Rydym yn credu mewn cefnogi ein staff gymaint ag yr ydym yn cefnogi ein cymunedau. Dyma beth allwch chi ei ddisgwyl:
• Polisi gweithio hybrid – mwynhewch hyblygrwydd cael gweithio gartref yn ystod yr wythnos.
• Diwylliant sy’n gwerthfawrogi cydbwysedd bywyd a gwaith, ymddiriedaeth ac ymreolaeth.
• Cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol, dilyniant gyrfa a chymorth parhaus.
• Gwobrau Conwy a buddion cyflogaeth eraill.
Os ydych chi’n barod i gael effaith barhaol a datblygu eich gyrfa mewn amgylchedd cefnogol ac arloesol, byddem wrth ein boddau’n clywed gennych chi.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Clare Williams Rheolwr Tîm 01492 575374 Clare.williams@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Work base: Coed Pella, Colwyn Bay
Join Our Passionate Team – Make a Real Difference in Young Lives!
At Conwy County Borough Council, we’re proud to be a forward-thinking, ambitious authority at the heart of North Wales. We’re committed to delivering high-quality, person-centred services that truly make a difference in our communities.
Our Integrated Disability Service is on the lookout for a dedicated and compassionate Social Worker to join our vibrant team, supporting children and young people up to the age of 25.
This is more than just a job – it’s a chance to empower young people with disabilities to live full, meaningful lives. You’ll work closely with families, health professionals, and education partners to create tailored, outcome-focused support plans that reflect what really matters to each individual.
As a Social Worker in our team, you’ll:
• Champion a person-centred approach, helping young people develop their potential and achieve their goals.
• Be part of a truly integrated service, working hand-in-hand with Health and Education to provide holistic support.
• Build strong, trusting relationships that foster independence, inclusion, and choice.
• Join a team that values innovation, collaboration, and compassion.
We’re looking for someone with vision, energy, and empathy – someone who believes in the power of possibility and is ready to help shape brighter futures.
Why Join Us?
We believe in supporting our staff as much as we support our communities. Here’s what you can expect:
• Hybrid working policy – enjoy the flexibility of working from home during the week.
• A culture that values work-life balance, trust, and autonomy.
• Opportunities for professional development, career progression, and ongoing support.
• Conwy rewards and other employee benefits.
If you’re ready to make a lasting impact and grow your career in a supportive, forward-thinking environment, we’d love to hear from you.
This role offers flexible working options for a work life balance. This can include adjusting your working day and hybrid working, ie a balance of office and home working.
Manager details for informal discussion: Clare Williams Team Manager 01492 575374 Clare.williams@conwy.gov.uk
Welsh Language Skills: The ability to communicate in Welsh is desirable for this post. We are committed to our Welsh language and are proud of our Welsh culture. We welcome applications in both Welsh and English and application forms received in either language will not be treated less favourably than each other. We’re passionate about supporting and encouraging you to use your Cymraeg whatever your level. We offer free classes at all levels, in-person and on-line to support you.
Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd