Trainee Solicitor
Dyddiad hysbysebu: | 05 Awst 2025 |
---|---|
Oriau: | Llawn Amser |
Dyddiad cau: | 19 Awst 2025 |
Lleoliad: | Conwy County, Wales |
Gweithio o bell: | Hybrid - gweithio o bell hyd at 1 diwrnod yr wythnos |
Cwmni: | Conwy County Borough Council |
Math o swydd: | Dros dro |
Cyfeirnod swydd: | REQ006749 |
Crynodeb
Cychwyn eich gyrfa gyfreithiol gyda Chonwy!
Ydych chi’n barod i lansio eich gyrfa ym myd y gyfraith mewn amgylchedd deinamig, cefnogol a blaengar? Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynnig cyfle cyffrous i Gyfreithiwr Dan Hyfforddiant ymuno a thîm blaenllaw’r Gwasanaethau Cyfreithiol.
Gan weithio yn ein swyddfa fodern yng Nghoed Pella, Bae Colwyn, gyda hyblygrwydd i weithio’n hybrid, byddwch yn magu profiad ymarferol mewn amrywiaeth eang o feysydd cyfreithiol. O gontractau a throsglwyddiadau i brosesau’r llysoedd ac adfocatiaeth, mae’r rôl hon yn cynnig cyfle unigryw i ddatblygu eich sgiliau dan arweiniad gweithwyr cyfreithiol profiadol o’r sectorau cyhoeddus a phreifat.
Beth fyddwch chi’n ei wneud
• Cynorthwyo â gwaith cyfreithiol mewn meysydd fel contractau, eiddo, prosesau’r llysoedd a chyfraith gofal plant, ac arwain ar y gwaith hwn maes o law.
• Drafftio dogfennau cyfreithiol, gwneud ymchwil a chynghori swyddogion ac aelodau’r Cyngor.
• Magu profiad o adfocatiaeth mewn Llysoedd Ynadon a Sirol a Thribiwnlysoedd.
• Gweithio’n agos gydag adrannau sy’n gleientiaid a chyrff allanol ar achosion pwysig sy’n effeithio ar y gymuned.
Pam ymuno â Chonwy?
• Awyrgylch cefnogol o fewn y tîm, sy’n canolbwyntio’n helaeth ar ddatblygiad a lles.
• Trefniadau gweithio’n hyblyg i gael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
• Cyfleoedd i weithio ar faterion cyfreithiol amrywiol, proffil uchel.
• Ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
• Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a buddion i staff.
• …a llawer iawn mwy!
Barod i ymgeisio?
Os ydych chi’n frwdfrydig am yrfa yn y gyfraith ym maes llywodraeth leol ac eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn, byddai’n braf iawn clywed gennych chi.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Ceri Williams ar 01492 576111 neu anfon e-bost at Ceri.williams@conwy.gov.uk.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Work base: Coed Pella
Step into Your Legal Career with Conwy!
Are you ready to launch your legal career in a dynamic, supportive, and forward-thinking environment? Conwy County Borough Council is offering an exciting opportunity for a Trainee Solicitor to join our progressive Legal Services team.
Working from our modern offices in Coed Pella, Colwyn Bay, with the flexibility of hybrid working, you’ll gain hands-on experience across a wide range of legal disciplines. From contracts and conveyancing to litigation and advocacy, this role offers a unique chance to develop your skills under the guidance of experienced legal professionals from both the public and private sectors.
What You’ll Be Doing
• Assisting with and eventually leading on legal work in areas such as contracts, property, litigation, and child care law.
• Drafting legal documents, conducting research, and advising council officers and members.
• Gaining advocacy experience in Magistrates, County Courts, and Tribunals.
• Working closely with client departments and external bodies on meaningful, community-impacting cases.
Why Join Conwy?
• A supportive team culture with a strong focus on development and wellbeing.
• Flexible working arrangements to support work-life balance.
• Opportunities to work on high-profile, varied legal matters.
• A commitment to equality, diversity, and inclusion.
• Access to the Local Government Pension Scheme and staff benefits.
• …..plus much more!
Ready to Apply?
If you’re enthusiastic about a career in local government law and want to make a real difference, we’d love to hear from you.
For an informal chat about the role, contact Ceri Williams on 01492 576111 or email Ceri.williams@conwy.gov.uk.
This role offers flexible working options for a work life balance. This can include adjusting your working day and hybrid working, ie a balance of office and home working.
Welsh Language Skills: The ability to communicate in Welsh is desirable for this post. We are committed to our Welsh language and are proud of our Welsh culture. We welcome applications in both Welsh and English and application forms received in either language will not be treated less favourably than each other. We’re passionate about supporting and encouraging you to use your Cymraeg whatever your level. We offer free classes at all levels, in-person and on-line to support you.
Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd