Dewislen

Leisure Assistant

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 30 Gorffennaf 2025
Oriau: Rhan Amser
Dyddiad cau: 13 Awst 2025
Lleoliad: Conwy, Conwy County
Gweithio o bell: Ar y safle yn unig
Cwmni: Conwy County Borough Council
Math o swydd: Parhaol
Cyfeirnod swydd: REQ006742

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Join Our Team as a Leisure Assistant at Colwyn Leisure Centre!


Are you energetic, enthusiastic, and ready to kickstart a career in the leisure industry?


Are you passionate about fitness, swimming, and creating a welcoming environment for everyone?


Join our team at Parc Eirias and play a key role in delivering exceptional experiences to our community


What You’ll Be Doing:
Your shift pattern will promote a favourable work-life-balance, as you will alternate weekends off and benefit from enhanced pay rates for weekend working. You will also be required to participate in monthly lifeguard training sessions.

As a Leisure Assistant, you’ll be at the heart of our vibrant leisure centre, helping to deliver a safe, clean, and enjoyable experience for all our visitors. From lifeguarding our swimming programmes and ensuring pool safety, to assisting local schools and sports clubs with equipment setup and takedown, supporting major sporting events and community activities, and promoting youth wellbeing through exciting sport camps during school holidays—no two days are the same!


Training & Development
We’re committed to helping you grow! Alongside essential training in Safeguarding and Health & Safety, you’ll have the opportunity to gain industry-recognised qualifications, such as:
• ASA Level 2 Swimming Teaching
• NVQs in Leisure Operations and Management
• Gym Instruction and Fitness Qualifications


Why Join Us?
At Ffit Conwy, we’re more than just a leisure service—we’re a community. You’ll be part of a supportive team that values health, wellbeing, and personal development. Plus, you’ll get to wear our branded uniform and represent a service that makes a real difference.


Ready to Dive In?
Apply now and help us make every visit to Colwyn Leisure Centre a fantastic experience!
Due to the nature of the work, the post is subject to a satisfactory disclosure check from the Disclosure and Barring Service

Ymunwch â’n tîm fel Cynorthwy-ydd Hamdden yng Nghanolfan Hamdden Colwyn!


Ydych chi yn egnïol, brwdfrydig ac yn barod i gychwyn gyrfa yn y diwydiant hamdden?


Ydych chi’n angerddol ynglŷn â ffitrwydd, nofio a chreu amgylchedd croesawgar i bawb?


Ymunwch â’n tîm ym Mharc Eirias a chwaraewch rôl allweddol mewn darparu profiadau eithriadol i’n cymuned.


Beth fyddwch chi’n ei wneud:
Bydd eich patrwm sifftiau’n annog cydbwysedd ffafriol rhwng bywyd a gwaith, gan mai ond bob yn ail benwythnos y byddwch yn gweithio ac fe gewch gyfradd dâl uwch am weithio ar benwythnosau. Bydd hefyd angen i chi gymryd rhan mewn sesiynau hyfforddiant i achubwyr bywydau bob mis.

Fel Cynorthwy-ydd Hamdden byddwch yn greiddiol i’n canolfan hamdden fywiog, gan helpu i ddarparu profiad diogel, glân a phleserus i’n holl ymwelwyr. O gyflawni dyletswyddau’n ymwneud ag achub bywydau, ein rhaglenni nofio a sicrhau diogelwch yn y pwll, i gynorthwyo ysgolion lleol a chlybiau chwaraeon gyda gosod offer a’u tynnu i lawr, cefnogi digwyddiadau chwaraeon mawr a gweithgareddau cymunedol a hyrwyddo lles ieuenctid drwy wersylloedd chwaraeon cyffrous yn ystod gwyliau’r ysgol - nid oes dau ddiwrnod yr un fath!


Hyfforddiant/Datblygu
Rydym yn ymrwymedig i’ch helpu i ddatblygu! Yn ogystal â hyfforddiant hanfodol mewn Diogelu ac Iechyd a Diogelwch, fe gewch y cyfle i ennill cymwysterau a gydnabyddir gan y

diwydiant fel:
• Cwrs Addysgu Nofio ASA Lefel 2
• NVQ mewn Gweithrediadau Hamdden a Rheoli
• Cymwysterau Hyfforddiant Campfa a Ffitrwydd


Pam ymuno â ni?
Yn Ffit Conwy rydym yn fwy na dim ond gwasanaeth hamdden - rydym yn gymuned. Byddwch yn rhan o dîm cefnogol sy’n rhoi gwerth ar iechyd, lles a datblygiad personol. Hefyd fe gewch wisgo ein gwisg swyddogol sydd â brand a chynrychioli gwasanaeth sy’n gwneud gwir wahaniaeth.


Ydych chi’n barod i fynd amdani?
Ymgeisiwch nawr a helpwch ni i wneud pob ymweliad â Chanolfan Hamdden Colwyn yn brofiad gwych!
Oherwydd natur y gwaith, bydd angen cael datgeliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y swydd hon

Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd

Hyderus o ran Anabledd
Yn gyffredinol, bydd cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn cynnig cyfweliad i unrhyw ymgeisydd sy'n datgan eu bod yn anabl ac yn bodloni'r meini prawf lleiaf ar gyfer y swydd fel y diffinnir gan y cyflogwr. Mae'n bwysig nodi, mewn rhai sefyllfaoedd recriwtio fel nifer fawr o ymgeiswyr, cyfnod tymhorol ac amseroedd prysur iawn, efallai y bydd y cyflogwr am gyfyngu ar y niferoedd cyffredinol o gyfweliadau a gynigir i bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl. Am fwy o fanylion ewch i Hyderus o ran Anabledd.

Gwneud cais am y swydd hon