SWYDDOG CLEBRAN SIR TORFAEN (SWYDDOG IAITH I LEOLIADAU SAESNEG NAS CYNHELIR)
Dyddiad hysbysebu: | 21 Gorffennaf 2025 |
---|---|
Cyflog: | £4,176 i £4,803 bob blwyddyn |
Oriau: | Rhan Amser |
Dyddiad cau: | 10 Awst 2025 |
Lleoliad: | Torfaen |
Gweithio o bell: | Ar y safle yn unig |
Cwmni: | Mudiad Meithrin Cyf |
Math o swydd: | Dros dro |
Cyfeirnod swydd: |
Crynodeb
Dyletswyddau’r Swydd:
Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin drwy Reolwr Cenedlaethol Croesi’r Bont a Clebran am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
Clebran:
• Cefnogi a chynorthwyo lleoliadau cyfrwng Saesneg yn rhithiol i gynyddu defnydd o’r Gymraeg o fewn y ddarpariaeth gan ddefnyddio cynllun arloesol Mudiad Meithrin, ‘Clebran’
• Darparu gwasanaeth rhithiol i gefnogi’r iaith Gymraeg yn y gweithle trwy gynllun ‘Clebran’ i staff sydd angen datblygu eu sgiliau Cymraeg ymhellach
• Darparu hyfforddiant rhithiol trwy gyflwyno gweithdai dros Microsoft Teams pob hanner tymor
• Darparu cefnogaeth 1:1 dros Microsoft Teams gyda staff y meithrinfeydd rhwng y gweithdai
• Ymweld â lleoliadau yn ôl amserlen tymhorol
• Cytuno ar y cyd â staff y lleoliad ar ddulliau priodol i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg
• Cynorthwyo a chydweithio â’r awdurdod lleol i gynorthwyo’r lleoliadau i ateb gofynion Estyn o ran datblygu’r iaith Gymraeg
• Cynnal sgyrsiau rhithiol a /neu wyneb gyda staff y lleoliadau ynglŷn â manteision dwyieithrwydd
• Datblygu gweithdai thematig ychwanegol dan arweiniad Prif Swyddog a Rheolwr y cynllun
• Mynychu cyfarfodydd cynllunio a datblygu rhithiol yn ôl y galw
• Cydweithio’n agos gyda’r timoedd Addysg Blynyddoedd Cynnar yn y siroedd perthnasol er mwyn sicrhau darpariaeth gyson, a darparu adroddiadau monitro tymhorol
• Ymgymryd ag unrhyw waith arall perthnasol fydd yn hybu sgiliau iaith yr oedolion a’r plant
• Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
• Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr
Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd