Occupational Therapist
Dyddiad hysbysebu: | 10 Gorffennaf 2025 |
---|---|
Oriau: | Llawn Amser |
Dyddiad cau: | 24 Gorffennaf 2025 |
Lleoliad: | Conwy County, Wales |
Gweithio o bell: | Hybrid - gweithio o bell hyd at 1 diwrnod yr wythnos |
Cwmni: | Conwy County Borough Council |
Math o swydd: | Parhaol |
Cyfeirnod swydd: | REQ006689 |
Crynodeb
Mae swydd Therapydd Galwedigaethol llawn amser ar gael o fewn y Tîm Pobl Hŷn a Gwaith Cymdeithasol Ysbyty.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gwneud ymyriadau therapi galwedigaethol ar y cyd â Phobl Hŷn sydd o bosib angen gofal a chefnogaeth a phobl sydd wedi bod mewn ysbyty ynghyd â'u teuluoedd a'u gofalwyr.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o fewn Tîm Adnoddau Cymunedol sy’n canolbwyntio’n bendant ar gynllunio yn seiliedig ar ganlyniadau ac ailalluogi.
Rhaid i ymgeiswyr feddu ar gymhwyster Therapi Galwedigaethol proffesiynol h.y. Ôl Ddiploma Therapi Galwedigaethol neu Radd mewn Therapi Galwedigaethol ac wedi cofrestru gyda’r HCPC. Yn ddelfrydol bydd ymgeiswyr wedi cael profiad ar ôl cymhwyso mewn gweithio gyda Phobl Hŷn, teuluoedd a gofalwyr.
Bydd cefnogaeth ar gael drwy oruchwyliaeth reolaidd ffurfiol a goruchwyliaeth anffurfiol o ddydd i ddydd, Adolygiadau Datblygu Personol a chyfleoedd hyfforddi gwych.
Mae’n hanfodol bod deilydd y swydd yn gallu teithio drwy'r Sir yn rheolaidd, yn aml i ac o leoliadau anghysbell ar fyr rybudd.
Oherwydd natur y gwaith, bydd angen datgeliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Iona Williams, Rheolwr Tîm, 01492 577600 Iona.williams@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy’n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy’n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi’i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda ‘H’ ar y Manylion am yr Unigolyn).
Work base: Colwyn Bay
An opportunity has arisen for a full time Occupational Therapist within the Older People and Hospital Social Work Team.
The successful candidate will provide high quality occupational therapy interventions in collaboration with Older People who may be in need of care and support and people who have been in hospital alongside their families and carers.
The successful applicant will work within a Community Resource Team setting with a strong focus on outcome based planning and re-ablement.
Applicants should have a professional Occupational Therapy qualification e.g. Post Dip Occupational Therapy or a Degree in Occupational Therapy and must be registered with the HCPC. Ideally applicants will have post qualifying experience in working with Older People, families and carers.
Support will be available through regular formal supervision and day to day informal supervision, Personal Development Reviews and excellent training opportunities.
It is essential that the post holder has the ability to travel throughout the County on a regular basis, often to and from remote locations at short notice.
Due to the nature of the work, it will be necessary to obtain a satisfactory disclosure from the Disclosure and Barring Service (DBS)
This role offers flexible working options for a work life balance. This can include adjusting your working day and hybrid working, ie a balance of office and home working.
Manager details for informal discussion: Iona Williams, Team Manager, 01492 577676, iona.williams@conwy.gov.uk
Welsh Language Skills: The ability to communicate in Welsh is desirable for this post. We are committed to our Welsh language and are proud of our Welsh culture. We welcome applications in both Welsh and English and application forms received in either language will not be treated less favourably than each other.
We’re passionate about supporting and encouraging you to use your Cymraeg whatever your level. We offer free classes at all levels, in-person and on-line to support you.
Conwy is committed to safeguarding. Qualifications and references will be verified.
We’re committed to developing a diverse workforce and inclusive teams that embrace a wide range of voices, experiences, perspectives and backgrounds. Creating a workplace that is welcoming and where everyone feels they belong ensures we can deliver great services.
We welcome and encourage applicants from all backgrounds and experiences.
We are a Disability Confident Employer. If you have declared a disability in your application, we guarantee an interview if you evidence that you meet the essential criteria of the job in your application (requirements marked with an ‘E’ on the Person Specification).
Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd