Dewislen

Lunchtime Supervisor – Ysgol Gynradd Gymraeg

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 08 Gorffennaf 2025
Cyflog: £23,656 bob blwyddyn, pro rata
Oriau: Rhan Amser
Dyddiad cau: 16 Gorffennaf 2025
Lleoliad: Ceredigion, Wales
Gweithio o bell: Ar y safle yn unig
Cwmni: Cyngor Sir Ceredigion County Council
Math o swydd: Parhaol
Cyfeirnod swydd: REQ106143

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Please note that the advertised salary for this position is subject to a pending pay award. The final salary will be adjusted in line with the nationally agreed pay award.

The following is an advert for a position where the ability to converse through the medium of English and Welsh is essential.

Rydym yn bwriadu recriwtio Goruchwyliwr Amser Cinio yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth am 6.25 awr yr wythnos i ymuno â’n tîm cyfeillgar sy’n goruchwylio disgyblion rhwng oriau 11.55yb a 1.10yp o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod y tymor.

O ddydd i ddydd byddwch yn cynorthwyo i weini bwyd, clirio platiau a chlirio’r Neuadd Fwyd cyn goruchwylio disgyblion yn yr ardal chwarae.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Pennaeth, Mr Gareth James ar 01970 617613 neu trwy e-bost: JamesG19@hwbcymru.net

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd

Hyderus o ran Anabledd
Yn gyffredinol, bydd cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn cynnig cyfweliad i unrhyw ymgeisydd sy'n datgan eu bod yn anabl ac yn bodloni'r meini prawf lleiaf ar gyfer y swydd fel y diffinnir gan y cyflogwr. Mae'n bwysig nodi, mewn rhai sefyllfaoedd recriwtio fel nifer fawr o ymgeiswyr, cyfnod tymhorol ac amseroedd prysur iawn, efallai y bydd y cyflogwr am gyfyngu ar y niferoedd cyffredinol o gyfweliadau a gynigir i bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl. Am fwy o fanylion ewch i Hyderus o ran Anabledd.

Gwneud cais am y swydd hon