Dewislen

RHEOLWR CYFRIFON TALADWY

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 03 Gorffennaf 2025
Cyflog: £36,124 i £37,035 bob blwyddyn
Oriau: Llawn Amser
Dyddiad cau: 25 Gorffennaf 2025
Lleoliad: Llantrisant, Pontyclun
Gweithio o bell: Hybrid - gweithio o bell hyd at 2 ddiwrnod yr wythnos
Cwmni: South Wales Fire and Rescue Service
Math o swydd: Parhaol
Cyfeirnod swydd: 505984

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn yr Adran Cyllid, Caffael ac Eiddo ym Mhencadlys y
Gwasanaeth Tân, Parc Busnes Forest View, Llantrisant ar gyfer rôl Rheolwr Cyfrifon
Taladwy.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am sicrhau bod gan y Gwasanaeth brosesau
caffael a thalu cadarn ar waith, gan roi cyngor a chymorth gydag arferion caffael i
swyddogion y sefydliad. Bydd yr ymgeisydd hefyd yn gyfrifol am oruchwylio'r tîm Proses
Caffael i Dalu (P2P) gan weithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf i staff, darparu cyngor, ac
arweiniad a gweinyddiaeth system ar gyfer y system e-gaffael yn ogystal â darparu
hyfforddiant.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Gall y rôl hon gynnwys teithio rhwng safleoedd ledled De Cymru. Rhaid i'r ymgeisydd
llwyddiannus allu teithio'n annibynnol, a bydd angen gwiriad trwydded yrru.

Gwneud cais am y swydd hon