Dewislen

Casual CCTV Operator

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 02 Gorffennaf 2025
Oriau: Rhan Amser
Dyddiad cau: 16 Gorffennaf 2025
Lleoliad: Conwy, Conwy County
Gweithio o bell: Ar y safle yn unig
Cwmni: Conwy County Borough Council
Math o swydd: Cytundeb
Cyfeirnod swydd: REQ006681

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb


Looking for something different to widen your skill set or to supplement your income?

Due to a successful bid for grant funding, we are looking for reliable and flexible individuals to join our team as Casual CCTV Operators.

This role is ideal for those seeking occasional, ad hoc work.
As a casual worker, you will be offered shifts as and when required, to include night-time, weekends and bank holidays. Shifts are of mixed length from 4 hrs to 8 hrs and there is no obligation for you to accept every offer. Likewise, we are not obliged to provide regular work. This arrangement offers flexibility and is perfect for those looking to fit work around other commitments.

The post is initially funded until 31st March 2026 with the possibility of extending further.

You would be required to hold or qualify for a CCTV operator’s licence, training will be provided and you will be based at our state of the art CCTV and Alarm Receiving Centre in Colwyn Bay.

You require a good standard of education with a minimum of 5 GCSE’s, or equivalent, and possess excellent communication, observation and dexterity skills.


You will need to be motivated and diligent with excellent interpersonal and team skills with the ability to undertake public space monitoring and answering alarms in a pressured environment.

Applicants will be required to obtain a disclosure check by the Disclosure and Barring Service (DBS) and undertake Non Police Personnel Vetting.

Chwilio am rywbeth gwahanol i ehangu eich set sgiliau neu i ychwanegu at eich incwm?

Oherwydd cais llwyddiannus am gyllid grant, rydym yn chwilio am unigolion dibynadwy a hyblyg i ymuno â'n tîm fel Gweithredwr TCC Achlysurol.

Mae’r rôl hon yn addas ar gyfer y rhai sy’n chwilio am waith achlysurol, yn ôl y galw.


Fel gweithiwr achlysurol, byddwch yn cael cynnig sifftiau yn ôl yr angen, gan gynnwys gweithio yn y nos, ar benwythnosau ac ar wyliau banc.

Mae sifftiau o hyd cymysg, o 4 awr i 8 awr, ac nid oes unrhyw rwymedigaeth i chi dderbyn pob cynnig. Yn yr un modd, nid oes rhwymedigaeth arnom ni i ddarparu gwaith rheolaidd. Mae'r trefniant hwn yn cynnig hyblygrwydd ac mae'n berffaith i'r rhai sydd am ffitio gwaith o amgylch ymrwymiadau eraill.

Mae'r swydd wedi'i hariannu i ddechrau tan 31 Mawrth 2026 gyda'r posibilrwydd o'i hymestyn ymhellach.

Byddai gofyn i chi gael neu fod yn gymwys i gael trwydded gweithredwr TCC. Caiff hyfforddiant ei ddarparu a byddwch wedi'ch lleoli yn ein Canolfan TCC a Derbyn Larymau o'r radd flaenaf ym Mae Colwyn.

Rhaid bod gennych safon dda o addysg gydag o leiaf 5 TGAU, neu gymwysterau cyfwerth, ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu, arsylwi a medrusrwydd rhagorol.

Bydd angen i chi fod yn frwdfrydig ac yn ddiwyd, gan feddu ar sgiliau rhyngbersonol a gweithio fel tîm rhagorol. Rhaid gallu monitro mannau cyhoeddus ac ateb larymau mewn amgylchedd lle mae’r pwysau’n uchel.

Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gael gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, gan fod yn destun Fetio Personél Di-Heddlu.

Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd

Hyderus o ran Anabledd
Yn gyffredinol, bydd cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn cynnig cyfweliad i unrhyw ymgeisydd sy'n datgan eu bod yn anabl ac yn bodloni'r meini prawf lleiaf ar gyfer y swydd fel y diffinnir gan y cyflogwr. Mae'n bwysig nodi, mewn rhai sefyllfaoedd recriwtio fel nifer fawr o ymgeiswyr, cyfnod tymhorol ac amseroedd prysur iawn, efallai y bydd y cyflogwr am gyfyngu ar y niferoedd cyffredinol o gyfweliadau a gynigir i bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl. Am fwy o fanylion ewch i Hyderus o ran Anabledd.

Gwneud cais am y swydd hon