Dewislen

Cynorthwyydd Addysgu – Lefel 2

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 01 Gorffennaf 2025
Cyflog: Heb ei nodi
Gwybodaeth ychwanegol am y cyflog: Gradd 3
Oriau: Llawn Amser
Dyddiad cau: 08 Gorffennaf 2025
Lleoliad: Casnewydd, Newport, NP18 2LN
Gweithio o bell: Ar y safle yn unig
Cwmni: eTeach UK Limited
Math o swydd: Cytundeb
Cyfeirnod swydd: 1496788

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Mae Corff Llywodraethol yr Ysgol flaengar ac arloesol hon yn awyddus i benodi Cynorthwywyr Addysgu (Lefel 2, Gradd 3) sy’n frwdfrydig, yn ddibynadwy ac yn ofalgar i ymrwymo ac ymuno â thîm o staff egniol, gweithgar a hapus ar gyfer mis Medi 2025. Gwahoddir ceisiadau ar gyfer swyddi â chytundeb blwyddyn (yn y lle cyntaf) gan gynorthwywyr profiadol neu’n newydd i’r rôl. Mae Ysgol Gymraeg Casnewydd yn ymfalchïo yn ein Cymreictod a’n hethos gofalgar, croesawgar a chymunedol. “Mae Ysgol Gymraeg Casnewydd yn gymuned gynhwysol gyda phwyslais cryf ar les a datblygiad disgyblion”, Estyn 2025 Ein datganiad o genhadaeth yw: ‘Meithrin meddyliau yfory gyda’n gilydd’. Ein nôd yw meithrin disgyblion i gyrraedd safonau uchaf posib ac i’w datblygu i feddwl yn ddwys am eu byd a’u rhan o fewn y byd ehangach. Lleolir Ysgol Gymraeg Casnewydd tafliad carreg oddi ar gyffordd 24 yr M4, felly’n ddigon agos i Gaerdydd ac yn hawdd i gyrraedd o sawl cyfeiriad.
Bydd y rôl yn ymwneud â:• Cyd-weithio'n effeithiol gydag athro dosbarth a staff yr ysgol • Gweithio a chefnogi disgyblion yn y dosbarth • Rhoi cefnogaeth / cymorth 1:1 neu â grwpiau bach o ddisgyblion gan gynnwys dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon am 11:59yh 7/7/25. Tynnir y rhestr fer ar y 8/7/25. Cynhelir cyfweliadau ar 11/7/25.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn cael ei ystyried yn hanfodol i ymgymryd â’r swydd hon. Felly, mae’r swydd yn cael ei hysbysebu yn unol â darpariaethau Adran 38 o Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976. Mae’r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. O dan y gyfraith mae’n rhaid i ni i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o’ch hawl i weithio yn y DU. Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, byddwch yn cael eich gofyn i ddarparu dogfennau priodol fel eich tystysgrif geni llawn/pasbort/trwydded waith yn unol â’r Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1996.

Gwneud cais am y swydd hon