Dewislen

Cynorthwy-ydd Dosbarth y Ganolfan Drochi

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 01 Gorffennaf 2025
Cyflog: Heb ei nodi
Gwybodaeth ychwanegol am y cyflog: Gradd 5 SCP 12-17 ( £27,711 - £30,060) PRO RATA
Oriau: Rhan Amser
Dyddiad cau: 15 Gorffennaf 2025
Lleoliad: Newport, Blaenau Gwent, NP20 2FT
Gweithio o bell: Ar y safle yn unig
Cwmni: eTeach UK Limited
Math o swydd: Parhaol
Cyfeirnod swydd: 1497086

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i benodi cynorthwy-ydd dosbarth egnïol ar gyfer y Ganolfan Drochi ym mis Medi 2025. Mae’r Ganolfan Drochi, sydd wedi ei leoli yn Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli, wedi’i sefydlu er mwyn ehangu’r ddarpariaeth trochi yng Nghasnewydd ar gyfer disgyblion sydd wedi trosglwyddo i addysg Gymraeg. Mae'r ysgol wedi symud safle yn Ebrill 2025 ac wedi symud i ganol dinas Casnewydd sef, ardal Pilgwenlli. Mae’r ysgol gyfan wedi ymrwymo i sefydlu cymuned ddysgu feithringar a pharchus sydd ag ethos cryf a chwbl gynhwysol. Mae’r ysgol gyfan wedi ymrwymo'n gryf i'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru a'i nôd yw darparu amgylchedd dysgu cyfrwng Cymraeg ysbrydoledig a chreu cymuned ddiogel a hapus i bawb. Rydym yn chwilio am gynorthwy-ydd dosbarth brwdfrydig ac ymroddgar i weithio dan oruchwyliaeth yr athrawes dosbarth yn y Ganolfan Drochi. Bydd yr angen i allu ymrwymo i gyfrannu at les, dysgu ac, wrth gwrs, i godi safonau ieithyddol y plant yn hanfodol. Fe fydd yr ymgeiswyr yn medru siarad, darllen ac ysgrifennu’r iaith Gymraeg yn rhugl, ac yn ddelfrydol yn meddu ar gymhwyster mewn gofal plant a phrofiad o weithio gyda phlant. Arwyddair yr ysgol yw: Law yn Llaw fe Hwyliwn Dros y Tonnau. Bydd ein teuluoedd yn ymgartrefu mewn man diogel, rhywle i ollwng yr angor a datblygu yng nghymuned Pilgwenlli, yn barod i hwylio i’r dyfodol. Cynigir y swydd ar sail 32.5 awr yr wythnos, yn gweithio yn ystod tymor ysgol yn unig.
Dyddiad cau ar gyfer y swydd hon yw 14/7/25.

Gwneud cais am y swydd hon