Library Assistant
Dyddiad hysbysebu: | 23 Mehefin 2025 |
---|---|
Oriau: | Llawn Amser |
Dyddiad cau: | 07 Gorffennaf 2025 |
Lleoliad: | Conwy County, Wales |
Gweithio o bell: | Ar y safle yn unig |
Cwmni: | Conwy County Borough Council |
Math o swydd: | Parhaol |
Cyfeirnod swydd: | REQ006608 |
Crynodeb
Lleoliad gwaith: Llyfrgelloedd yn Sir Conwy
Ydych chi’n frwdfrydig dros lyfrau a darllen ac am hyrwyddo a thrafod llyfrau gyda darllenwyr?
Ydych chi’n meddu ar sgiliau TG rhagorol ac yn mwynhau helpu pobl?
A fedrwch chi weld eich hun yn gweithio mewn llyfrgell bywiog a phrysur?
Os hoffech chi gael profiad o weithio gyda’r Gwasanaeth Llyfrgell a datblygu eich sgiliau mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid, dyma'r cyfle i chi.
Mae gennym gyfleoedd cyffrous i unigolion sy’n gallu cymell eu hunain i weithio mewn un neu fwy o’n llyfrgelloedd i ddarparu gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid.
Bydd gennych raddau TGAU gan gynnwys Saesneg gradd C ac uwch. Bydd angen i chi fod yn gyfeillgar ac yn empathetig, a byddwch yn wrandäwr da.
Dylai deiliaid y swyddi fod yn barod i weithio gyda’r nosau ac ar benwythnosau yn dibynnu ar anghenion y gwasanaeth.
Byddwch yn medru siarad Cymraeg yn hyderus gyda chwsmeriaid wrth weithio gyda ni.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:
Tracey Davies, Uwch Lyfrgellydd (Gorllewin), 01492 577512 tracey.p.davies@conwy.gov.uk
Gaynor Jones, Uwch Lyfrgellydd (Dwyrain), 01492 574661, gaynor.l.jones@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy’n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy’n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi’i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda ‘H’ ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â’r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â’r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
Work base: Multiple Libraries in Conwy County
Are you enthusiastic about books and reading and would like to promote and discuss books with readers?
Do you have excellent IT skills and enjoy helping people?
Can you picture yourself working in a vibrant and busy library?
If you want to gain work experience with Library Services and develop your skills in Customer Service, then this is the opportunity for you.
We have exciting opportunities for self-motivated individuals to work at one or more of our libraries to provide excellent customer service.
You will have GCSE grades including English at grade C and above. Friendly and empathetic, you will be able to demonstrate good listening skills.
Post holders should be willing to work evenings and weekends according to service need.
You will be confident in using conversational Welsh with customers while working with us.
Manager details for informal discussion:
Tracey Davies, Senior Librarian (West), 01492 577512 tracey.p.davies@conwy.gov.uk
Gaynor Jones, Senior Librarian (East), 01492 574661, gaynor.l.jones@conwy.gov.uk
Welsh Language Skills: The ability to communicate in Welsh is essential for this post. We are committed to our Welsh language and are proud of our Welsh culture. We welcome applications in both Welsh and English and application forms received in either language will not be treated less favourably than each other.
We’re passionate about supporting and encouraging you to use your Cymraeg whatever your level. We offer free classes at all levels, in-person and on-line to support you.
Conwy is committed to safeguarding. Qualifications and references will be verified.
We’re committed to developing a diverse workforce and inclusive teams that embrace a wide range of voices, experiences, perspectives and backgrounds. Creating a workplace that is welcoming and where everyone feels they belong ensures we can deliver great services.
We welcome and encourage applicants from all backgrounds and experiences.
We are a Disability Confident Employer. If you have declared a disability in your application, we guarantee an interview if you evidence that you meet the essential criteria of the job in your application (requirements marked with an ‘E’ on the Person Specification).
We are happy to provide reasonable adjustments throughout the recruitment process (and in employment) where possible. We encourage you to request adjustments. To do this please contact the manager named above to discuss your needs and potential support. There are options to apply via different formats, please contact the HR Team on 01492 576129 to discuss how we can support you. These requests will not put you at any disadvantage.
Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd