Dewislen

Tiwtor Crefft

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 13 Mehefin 2025
Cyflog: £30.76 yr awr
Oriau: Rhan Amser
Dyddiad cau: 27 Mehefin 2025
Lleoliad: Neath Port Talbot, Wales
Gweithio o bell: Ar y safle yn unig
Cwmni: Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales
Math o swydd: Cytundeb
Cyfeirnod swydd: Tiwtor Crefft Abertawe 06.25

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Tiwtor Crefft
Raddfa tâl: £30.76 yr awr
(gweler rhagor o wybodaeth am y gyfradd fesul awr yn y pecyn cais)
Rhan amser, oriau amrywiol
Cyfnod penodol hyd at ddiwedd y flwyddyn academaidd 2025/26
Yn ogystal â phecyn buddion hael

Mae gan Addysg Oedolion Cymru gyfle gwych ar gyfer tiwtor cymwysedig a medrus i gyflwyno cyrsiau crefft i ddysgwyr ar draws ardaloedd Abertawe a Chastell-Nedd Port Talbot. Byddwch yn cynllunio, datblygu, cyflwyno, gwerthuso ac asesu cyrsiau a rhaglenni dysgu yn unol ag anghenion dysgwyr ac Gweithdrefnau Ansawdd Addysg Oedolion Cymru, i gefnogi cyflwyno dysgu o ansawdd uchel.

Mae rôl Tiwtor yn rôl amrywiol, ymarferol lle byddwch yn gweithio’n annibynnol yn ogystal â gyda thîm y rhanbarth.

Byddwch yn gyfrifol am (ond nid yn gyflawn):

- Cynllunio a pharatoi cyrsiau – paratoi cynlluniau gwersi a chynlluniau gwaith. Dewis deunyddiau dysgu ac ystod o ddulliau dysgu i ddiwallu anghenion y dysgwr.
- Cefnogi dysgwyr – Asesu profiadau dysgu blaenorol a chyflawniadau dysgwyr, rhoi cyngor ac arweiniad priodol iddynt, a sicrhau bod dysgwyr yn ymwybodol o’u llwybrau dilyniant.
- Cyffredinol – ymgymryd â thasgau gweinyddol yn unol â rheoliadau ar gyfer cyllido Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales. Mynychu cyfarfodydd tiwtor perthnasol, briffiau ansawdd a chyfarfodydd achredu / safoni perthnasol.

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy'n gallu cyflwyno un neu fwy o'r cyrsiau canlynol:

• Gwnïo/Gwneud Dillad/Gwnïo ar gyfer y Cartref/Cyflwyniad i Wnïo/Gwnïo i Anifeiliaid Anwes/Ffrog mewn Diwrnod/Sesiynau Blasu
• Gwau i Ddechreuwyr/Gwau – Sgiliau Canolradd/Sgiliau Gwau Uwch
• Crosio i Ddechreuwyr/Canolradd/Uwch
• Trefnu Blodau/Celfyddyd Blodau/Dechreuwyr/Canolradd/Uwch
• Ffeltio Nodwyddau i Ddechreuwyr/Canolradd/Uwch
• Gwneud Ffelt i Ddechreuwyr/Canolradd/Uwch
• Gwehyddu/Peintio a Lluniadu/Dylunio Dillad/Uwchgylchu/Gwneud Gemwaith

Os oes gennych y sgiliau cywir, ac eisiau gweithio mewn maes hynod werth chweil lle mae eich gweithredoedd yn gwneud gwahaniaeth i bobl ledled Cymru, yna byddem wrth ein bodd yn derbyn eich cais.

Sut i ymgeisio
Ymgeisiwch erbyn 12yp Dydd Gwener 27ain Mehefin 2025 gan ddefnyddio'r ffurflen gais ar gael ar wefan Addysg Oedolion Cymru - nodwch n ad ydym yn derbyn CV. Ceir rhagor o fanylion am y rôl ynghyd â manyleb swydd a person yn y pecyn cais.

Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei weithlu dwyieithog ac amrywiol. Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i’n llwyddiant, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir sydd â’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hon.

Gwneud cais am y swydd hon