Arbenigwr Pwnc – Niche
Dyddiad hysbysebu: | 04 Mehefin 2025 |
---|---|
Cyflog: | £31,296 i £34,329 bob blwyddyn, pro rata |
Oriau: | Rhan Amser |
Dyddiad cau: | 16 Mehefin 2025 |
Lleoliad: | SA31 2PD |
Gweithio o bell: | Hybrid - gweithio o bell hyd at 3 ddiwrnod yr wythnos |
Cwmni: | Dyfed-Powys Police |
Math o swydd: | Dros dro |
Cyfeirnod swydd: |
Crynodeb
Heddlu Heddlu Dyfed Powys
Math o rôl Staff Heddlu
Maes Busnes / Adran TGCH
Lleoliad Caerfyrddin, Pencadlys
Hyblyg/Sefydlog/Sefydlog a Gweithredol Hyblyg
Gradd E
Cyflog £31,296 - £34,329 (Full time Equivalent)
Rhan/Llawn Amser Rhan Amser
Oriau'r Wythnos Arall
Oriau'r Wythnos - Arall 22.2
Math o Gytundeb Dros Dro
Dyddiad Gorffen Cytundeb Dros Dro 30 Ebrill 2027
Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol? 1
Dyddiad Cyfweliad 26 Mehefin 2025
Dyddiad cau 16/06/25 23:55
Disgrifiad Hysbysiad Swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer y swydd Arbenigwr Pwnc – Niche.
Beth fyddwch chi’n ei wneud?
Mae’r heddlu wedi ymrwymo i gyflenwi a datblygu’r system rheoli cofnodion Niche ac wedi cadarnhau dwy swydd barhaol i gefnogi hyn. Bydd yr ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus yn arbenigwr pwnc ar gyfer un o’r meysydd busnes isod:
Uned Diogelu’r Cyhoedd/Bregusrwydd
Yn y swydd hon, byddwch chi’n:
Cynrychioli’r heddlu yng nghyfarfodydd rhaglen Cydweithrediad Arfordir y Gorllewin pan mae prosesau/meysydd busnes arbenigol yn cael eu trafod/adolygu.
Cynorthwyo’r Rheolwr Cynnyrch a Rhaglenni TGCh i gyflenwi datblygu’r system rheoli cofnodion Niche o fewn yr heddlu, gan gynorthwyo â blaengynllunio gwaith.
Rheoli gwaith datblygu Niche a galwadau am gymorth drwy’r system Olrhain Ffrwd Gwaith dan gyfarwyddyd y Rheolwr Rhaglen TGCh.
Cymryd rhan weithredol mewn trafodaethau i gefnogi penderfyniadau mwyafrifol o fewn Cydweithrediad Arfordir y Gorllewin.
Os ydych chi’n credu bod gennych chi’r sgiliau a’r angerdd ar gyfer y swydd hon, cliciwch y ddolen isod i weld y proffil swydd. Os ydych chi’n credu mai hon yw’r swydd i chi, cwblhewch ffurflen gais, gan roi tystiolaeth yn erbyn y cymwysterau gofynnol (sydd ar dudalen olaf y proffil swydd fel arfer).
Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr a atodir isod, sy’n rhoi mwy o fanylion ynglŷn â sut i gwblhau’ch cais.
Beth allwch chi ddisgwyl?
Bydd gan bob dechreuwr newydd gyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno
24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus
24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle
Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)
Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas
Cynllun Beicio i’r Gwaith
Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi
Cynllun pensiwn
Rhwydweithiau Cymorth Staff
Cyfleoedd gweithio hyblyg
Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael
Darpariaethau tâl salwch
Bydd y cyflog ar gyfer unrhyw swyddi gwag rhan amser ar sail pro rata.
Amrywiaeth a’r Gymraeg
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.
Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.
Cliciwch fan hyn i weld pa un ai a ydych chi’n gymwys ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol ai peidio.
Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Pwynt gwybodaeth:
Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recruitment@dyfed-powys.police.uk
Neu ymunwch â’n digwyddiad recriwtio galw heibio wythnosol ar ddydd Mercher o 11y.b. – 11:30y.b. fan hyn.