Warning
Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben ac mae'r ceisiadau wedi cau.
Derbynnydd / Cynorthwy-ydd Gweinyddol
Dyddiad hysbysebu: | 02 Mehefin 2025 |
---|---|
Cyflog: | Heb ei nodi |
Gwybodaeth ychwanegol am y cyflog: | Gradd 3 pro rata |
Oriau: | Llawn Amser |
Dyddiad cau: | 16 Mehefin 2025 |
Lleoliad: | Ystum Taf, Cardiff, CF14 2JL |
Gweithio o bell: | Ar y safle yn unig |
Cwmni: | eTeach UK Limited |
Math o swydd: | Cytundeb |
Cyfeirnod swydd: | 1486364 |
Crynodeb
Mae’r ysgol yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig ac egnïol i swydd Derbynnydd / Cynorthwy-ydd Gweinyddol i gymuned yr ysgol. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â’r profiad a’r dealltwriaeth i ymateb yn hyblyg i sefyllfaoedd ac ymholiadau gwahanol. Mae’r swydd yn gofyn am sgiliau rhyng-bersonol ardderchog i allu delio gyda amrywiaeth o gynulleidfaoedd gan gynnwys, disgyblion, staff, rhieni, asiantaethau a phartneriaid allanol, y cyhoedd a’r gymuned ehangach.Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â sgiliau cyfathrebu ardderchog, a’r gallu i ddelio yn sensitif a chyfrinachol mewn sefyllfaoedd personol a chymleth gan gynnwys unigolion sy’n wynebu trafferthion neu anhawsterau. Mae’r gallu i weithio yn effeithiol fel rhan o dîm estynedig yn allweddol i’r rôl gan weithio’n agos gyda staff gweinyddol eraill, y tîm arwain a thîm cynnydd yr ysgol ynghyd â gwasanaethau cefnogi a chynnal allanol. Bydd angen sgiliau trefnu a rheoli gweinyddiaeth effeithiol er mwyn sicrhau fod materion yn cael sylw mewn da bryd a fod blaenoriaethau yn derbyn sylw teilwng mewn cyfyngder amser penodol. Gan fod cyfathrebu a chyswllt gyda rhieni yn rhan allweddol o’r swydd, disgwylir i’r swyddog gymryd rôl flaenllaw wrth gyfathrebu yn glir ac yn gyson a bod yn wyneb personol i ateb ymholiadau ac i dawelu pryderon. Disgwylir i’r unigolyn gymryd cyfrifoldeb llawn dros ddelwedd a diwyg y dderbynfa a mannau croeso’r ysgol gan sicrhau fod derbyniad cyfeillgar cynnes i ymwelwyr a bod y dderbynfa yn lân, broffesiynol a deniadol.
Yn wyneb twf a newid o fewn yr ysgol yn ystod y blynyddoedd nesaf, edrychwn am unigolyn brwdfrydig sydd â dealltwriaeth gadarn dros flaenoriaethau’r ysgol a dros y Gymraeg.
Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon ac am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth, Mr Matthew Evans.
Yn wyneb twf a newid o fewn yr ysgol yn ystod y blynyddoedd nesaf, edrychwn am unigolyn brwdfrydig sydd â dealltwriaeth gadarn dros flaenoriaethau’r ysgol a dros y Gymraeg.
Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon ac am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth, Mr Matthew Evans.