Marketing and Communications Manager (Wales)
Dyddiad hysbysebu: | 27 Mai 2025 |
---|---|
Cyflog: | £33,564 i £39,869 bob blwyddyn |
Oriau: | Llawn Amser |
Dyddiad cau: | 10 Mehefin 2025 |
Lleoliad: | Cardiff |
Gweithio o bell: | Hybrid - gweithio o bell hyd at 3 ddiwrnod yr wythnos |
Cwmni: | The National Lottery Heritage Fund |
Math o swydd: | Parhaol |
Cyfeirnod swydd: |
Crynodeb
As the largest funder for the UK’s heritage, our vision is for heritage to be valued, cared for and sustained for everyone, now and in the future. We believe in the power of heritage to ignite the imagination, offer joy and inspiration, and to build pride in place and connection to past.
Our mission is to use our expertise to support and champion the UK’s heritage and demonstrate the transformative potential of National Lottery funding through delivering our new strategy Heritage 2033. We ensure that money from the National Lottery makes a decisive difference for people, places and communities.
Marketing and Communications Manager, Wales
We are currently recruiting for a permanent full time Marketing & Communications Manager based in our Cardiff office with Hybrid working. The post-holder must be fluent in Welsh and English with a high level of written and verbal communications skills.
The marketing team is responsible for pro-actively promoting our work to people who play the National Lottery, those who apply for our funding and other stakeholders such as the heritage sector and public bodies. You will be a communications all-rounder, with roughly half your time spent on marketing and half on media relations, PR and social media. You will be confident to develop and deliver marketing plans and tactics to support our work in Wales driving new business through activity across multiple channels. In addition to a specific Wales focus, you will also work closely with colleagues in our central communications team, supporting and directly developing a range of corporate and UK-wide activities.
If you enjoy broad marketing roles, with significant opportunity to work across both strategy and delivery, this is an ideal role for you. You will play a vital role in promoting our funding and telling the story of what it makes possible, supported by a talented and collaborative team.
Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
Fel ariannwr treftadaeth mwyaf y Deyrnas Unedig, ein gweledigaeth yw i werthfawrogi a gofalu am dreftadaeth ac i'w chynnal ar gyfer pawb, nawr ac yn y dyfodol. Credwn mewn nerth treftadaeth i danio'r dychymyg, cynnig llawenydd ac ysbrydoliaeth, ac i ennyn balchder mewn lle a chysylltiad â'r gorffennol.
Ein cenhadaeth yw defnyddio ein harbenigedd i gefnogi a hybu treftadaeth y Deyrnas Unedig a dangos potensial trawsnewidiol arian y Loteri Genedlaethol trwy gyflwyno ein strategaeth Treftadaeth 2033 newydd. Rydym yn sicrhau bod arian y Loteri Genedlaethol yn gwneud gwahaniaeth pendant i bobl, lleoedd a chymunedau.
Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu, Cymru
Rydym wrthi'n recriwtio ar gyfer Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu amser llawn parhaol yn ein swyddfa yng Nghaerdydd gyda gweithio hybrid. Mae'n rhaid i'r deiliad swydd fod yn rhugl yn Gymraeg a Saesneg gyda sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar o safon uchel.
Mae’r tîm marchnata'n gyfrifol am hyrwyddo ein gwaith yn rhagweithiol i bobl sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol, y rhai sy’n gwneud cais am ein hariannu a rhanddeiliaid eraill megis y sector treftadaeth a chyrff cyhoeddus. A chithau'n amryddawn ym maes cyfathrebu, byddwch yn treulio tua hanner o'ch amser ar farchnata a hanner ar gysylltiadau cyfryngau, cysylltiadau cyhoeddus a chyfryngau cymdeithasol. Byddwch yn hyderus wrth ddatblygu a chyflwyno cynlluniau a thactegau marchnata i gefnogi ein gwaith yng Nghymru, gan ysgogi busnes newydd drwy weithgarwch ar draws nifer o sianeli. Yn ogystal â ffocws penodol ar Gymru, byddwch hefyd yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn ein tîm cyfathrebu canolog, gan gefnogi a datblygu amrywiaeth o weithgareddau corfforaethol a DU gyfan yn uniongyrchol.
Os ydych chi'n mwynhau rolau marchnata eang, gyda chyfle sylweddol i weithio ar draws strategaeth a chyflwyno, dyma rôl ddelfrydol i chi. Byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth hyrwyddo ein hariannu ac adrodd stori'r hyn y mae'n ei alluogi, wedi'ch cefnogi gan dîm dawnus a chydweithredol.
Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd