Dewislen

Ymgynghorydd Iechyd Galwedigaethol

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 27 Mai 2025
Cyflog: £41,907 bob blwyddyn, pro rata
Oriau: Rhan Amser
Dyddiad cau: 26 Mehefin 2025
Lleoliad: Carmarthen, Carmarthenshire
Gweithio o bell: Ar y safle yn unig
Cwmni: Dyfed-Powys Police
Math o swydd: Parhaol
Cyfeirnod swydd:

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Heddlu Heddlu Dyfed Powys
Math o rôl Staff Heddlu
Maes Busnes / Adran Uned Iechyd Galwedigaethol
Lleoliad Caerfyrddin, Pencadlys
Hyblyg/Sefydlog/Sefydlog a Gweithredol Sefydlog
Gradd G/H
Cyflog £41,907 - £51,294
Rhan/Llawn Amser Rhan Amser
Oriau'r Wythnos Arall
Oriau'r Wythnos - Arall 29.6 (0.8 FTE)
Math o Gytundeb Parhaol
Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol? 1
Dyddiad Cyfweliad 31 Gorffennaf 2025
Dyddiad cau 17/07/25 23:55

Disgrifiad Hysbysiad Swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel rhan-amser (29.6) Ymgynghorydd Iechyd Galwedigaethol yn Gwasanaethau Pobl.



Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Darparu cyngor Iechyd Galwedigaethol cynhwysfawr i reolwyr a staff ar bob mater sy’n ymwneud ag iechyd, diogelwch a lles aelodau’r heddlu, a sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion deddfwriaethol perthnasol.

Ymgymryd ag ymgynghoriadau absenoldeb salwch ar gyfer swyddogion a staff yr heddlu a ffurfio adroddiadau a rhaglenni adfer.

Cyfeiriadau Brysbennu Iechyd Galwedigaethol ar gyfer pennu i’r Ymgynghorydd Iechyd Galwedigaethol (YIG), Ymgynghorydd Meddygol yr Heddlu (YMH) neu ymgynghorwyr arbenigol eraill.

Ymgysylltu â’r Rheolwr Iechyd Galwedigaethol ar bob agwedd o iechyd galwedigaethol a cheisio’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch newidiadau i safonau cenedlaethol a deddfwriaeth sy’n effeithio ar y gwasanaeth heddlu.



Os ydych chi’n credu bod gennych chi’r sgiliau a’r angerdd ar gyfer y swydd hon, cliciwch y ddolen isod i weld y proffil swydd. Os ydych chi’n credu mai hon yw’r swydd i chi, cwblhewch ffurflen gais, gan roi tystiolaeth yn erbyn y cymwysterau gofynnol (sydd ar dudalen olaf y proffil swydd fel arfer).

Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr a atodir isod, sy’n rhoi mwy o fanylion ynglŷn â sut i gwblhau’ch cais.



Beth allwch chi ddisgwyl?



Bydd gan bob dechreuwr newydd gyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno
24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus
24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle
Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)
Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas
Cynllun Beicio i’r Gwaith
Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi
Cynllun pensiwn
Rhwydweithiau Cymorth Staff
Cyfleoedd gweithio hyblyg
Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael
Darpariaethau tâl salwch
Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.

Bydd y cyflog ar gyfer unrhyw swyddi gwag rhan amser ar sail pro rata.



Amrywiaeth a’r Gymraeg

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.

Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.

Cliciwch fan hyn i weld pa un ai a ydych chi’n gymwys ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol ai peidio.

Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Pwynt gwybodaeth:

Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recruitment@dyfed-powys.police.uk

Neu ymunwch â’n digwyddiad recriwtio galw heibio wythnosol ar ddydd Mercher o 11y.b. – 11:30y.b. fan hyn.

Gwneud cais am y swydd hon