Darlithydd: Peirianneg Gweithgynhyrchu
Dyddiad hysbysebu: | 19 Mai 2025 |
---|---|
Oriau: | Rhan Amser |
Dyddiad cau: | 16 Mehefin 2025 |
Lleoliad: | Neath, SA10 7RF |
Cwmni: | Vacancy Filler |
Math o swydd: | Parhaol |
Cyfeirnod swydd: | MAY20259356 |
Crynodeb
Mae gennym uchelgais mawr i fod yn ddarparwr addysg blaenllaw yn y sector ac fe hoffem i chi chwarae rhan yn hyn o beth. Os ydych chi'n angerddol dros Addysg ac eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, daliwch ati i ddarllen.Band A. Oriau dros gyfnod o flwyddyn: 699.6 - 835 (yn cynnwys boreau cynnar, gyda'r hwyr a phenwythnosau yn achlysurol). Parhaol, hyblyg ffracsiynol.Graddfeydd Darlithydd Cyswllt 1 - 4, £25,372 - £29,942 y flwyddyn, pro rata. Graddfeydd Prif Raddfa 1 - UP1, £32,304 - £46,432 y flwyddyn, pro rata (ar gyfer darlithwyr cymwysedig).Ynglyn â chi: Bydd gan ein hymgeisydd delfrydol gymhwyster addysgu (er y gellir darparu hyfforddiant), ynghyd â chymhwyster Lefel 7 (Gradd Feistr neu gyfwerth) mewn disgyblaeth berthnasol a phrofiad perthnasol. Mae angen hefyd gymwysterau Lefel 2 mewn Mathemateg a Saesneg (TGAU neu gyfwerth). Gyda’r effaith y mae’r byd digidol yn ei chael ar ddysgu ac addysgu bydd angen i ymgeiswyr hefyd fod yn hyddysg mewn TG hyd at lefel 2 o leiaf.Ynglyn â ni: Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru.Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau’r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil. Gyda’n staff addysgu hynod gymwys a’u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad. Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig.Pam y dylech chi weithio i ni? Yn ogystal â chyflogau cystadleuol, mae ein cynlluniau pensiwn ymhlith y gorau sydd ar gael. Caiff y rhain eu gweinyddu drwy’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu’r Cynllun Pensiwn Athrawon ac maent yn darparu pensiynau sy’n cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant. Rydym yn cyfrannu dros £20 i'ch pensiwn, am bob £100 rydych chi'n ei ennill.Mae'r lwfans gwyliau yn ardderchog o flwyddyn 1. Mae gennych 46 diwrnod o wyliau y flwyddyn, a gan ein bod ni'n cau’r Coleg am hyd at 5 diwrnod dros y Nadolig, mae hyn yn golygu hyd at 5 diwrnod o wyliau ychwanegol. Gyda’r 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus/banc ar ben hyn, gallech elwa o 59 diwrnod o wyliau blynyddol fel Darlithydd. Dyma yw cydbwysedd bywyd-gwaith!Mae gennym ystod o opsiynau gweithio hyblyg posibl ar gael gan gynnwys absenoldeb sabothol a rhannu swydd, lle mae'n diwallu anghenion y Coleg. Mae budd-daliadau salwch yma yn hael, ac mae staff hefyd yn cael mynediad am ddim i iechyd galwedigaethol annibynnol, y Llinell Gymorth i Weithwyr, llinell gymorth rheoli bywyd a chymorth personol 24 awr. Mae’r Coleg hefyd yn cyflogi Cydlynydd Iechyd a Llesiant penodedig, sy’n darparu cefnogaeth ac yn trefnu digwyddiadau poblogaidd iawn ar draws y Grwp, yn ogystal â darparu mynediad i amrywiaeth o adnoddau llesiant rhad ac am ddim.Mae maes parcio am ddim ym mhob un o’n prif golegau yn ogystal â lle i storio beiciau, ac os ydych wedi’ch lleoli yn y De gallwn hefyd gynnig gostyngiad o 10% ym Meithrinfa Ddydd Lilliput yng Nghastell-nedd.Mae'r Coleg yn addysgwr ac felly rydym yn hyrwyddo ac yn annog Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn weithredol i'n holl staff; efallai y byddwn hyd yn oed yn gallu cyfrannu at y ffioedd ar gyfer graddau uwch a chymwysterau eraill sy'n ddefnyddiol i'ch swydd. Ar ben hyn i gyd, mae gweithio yn y Coleg yn rhoi’r fraint inni fod yn rhan o helpu ein dysgwyr a’n cymunedau i lwyddo a ffynnu.Mae Grwp Colegau NPTC yn cynnig llawer mwy na chyflogau da yn unig!