Dewislen
Warning Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben ac mae'r ceisiadau wedi cau.

DATBLYGYDD AMLGYFRWNG

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 10 Chwefror 2025
Cyflog: £31,586 i £32,654 bob blwyddyn
Oriau: Llawn Amser
Dyddiad cau: 28 Chwefror 2025
Lleoliad: CF3 6YA
Gweithio o bell: Ar y safle yn unig
Cwmni: South Wales Fire and Rescue Service
Math o swydd: Cytundeb
Cyfeirnod swydd:

Crynodeb

Dylech chi gyflwyno eich cais erbyn Canol Dydd 28.02.2025

Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Datblygydd Amlgyfrwng o fewn Uned Cefnogi
Hyfforddiant Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Lleolir y swydd hon yng Nghanolfan Hyfforddi a Datblygu Porth Caerdydd, Heol yr Eglwys, Hen Laneirwg, Caerdydd, CF3 6YA. Rydym yn sefydliad sy’n ystyriol o deuluoedd ac mae system gweithio hyblyg ar waith.
Gan weithio fel rhan o'r Uned Cefnogi Hyfforddiant ac adrodd i'r Arweinydd Tîm Datblygu Amlgyfrwng, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu gwasanaeth dylunio ac amlgyfrwng o ansawdd uchel ac effeithlon trwy greu deunyddiau hyfforddi i gefnogi holl weithgareddau'r Gwasanaeth yn â hyfforddiant, datblygiad a hyfedredd sgiliau pharhaus.
Yn ogystal, byddant yn darparu gwasanaeth ffotograffig a fideo ar gyfer Canolfan
Hyfforddi a Datblygu Porth Caerdydd.
Mae angen sgiliau trefnu rhagorol, mae cywirdeb a sylw i fanylion hefyd yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, yn ogystal â'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar draws pob lefel, gydag ystod o randdeiliaid mewnol ac allanol. Darperir hyfforddiant yn systemau meddalwedd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Gall y rôl hon olygu rhywfaint o deithio o bryd i'w gilydd rhwng safleoedd ledled De
Cymru. Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus allu teithio'n annibynnol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

• Cytundeb: 12 mis cyfnod penodol
• Gradd: 8
• Cyflog: £31,586 i £32,654
• Oriau Gwaith: 37
• Cyfarwyddiaeth: Hyfforddiant
• Cyfeirnod Swydd: 504045
• Lleoliad: Canolfan Hyfforddi Porth Caerdydd