Dewislen
Warning Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben ac mae'r ceisiadau wedi cau.

Teaching Assistant Level 2 – Cenarth Primary School

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 23 Hydref 2024
Cyflog: £24,404 bob blwyddyn, pro rata
Oriau: Rhan Amser
Dyddiad cau: 03 Tachwedd 2024
Lleoliad: Ceredigion, Wales
Gweithio o bell: Ar y safle yn unig
Cwmni: Cyngor Sir Ceredigion County Council
Math o swydd: Dros dro
Cyfeirnod swydd: REQ105696

Crynodeb

The following is an advert for a position where the ability to converse through the medium of English and Welsh is essential.

Mae Corff Llywodraethol Ysgol Cenarth yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig ac ymroddgar i weithio fel Cynorthwyydd Addysgu lefel 2 yn yr ysgol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi dysgwyr ar draws yr ysgol yn eu datblygiad, gan gynnwys dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Gweler ein gwefan gyrfaoedd am y Disgrifiad Swydd a Manyleb Person.

Am fwy o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â Phennaeth Ysgol Cenarth, Mr Lee Burrows, ar burrowsj8@hwbcymru.net

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd

Hyderus o ran Anabledd
Yn gyffredinol, bydd cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn cynnig cyfweliad i unrhyw ymgeisydd sy'n datgan eu bod yn anabl ac yn bodloni'r meini prawf lleiaf ar gyfer y swydd fel y diffinnir gan y cyflogwr. Mae'n bwysig nodi, mewn rhai sefyllfaoedd recriwtio fel nifer fawr o ymgeiswyr, cyfnod tymhorol ac amseroedd prysur iawn, efallai y bydd y cyflogwr am gyfyngu ar y niferoedd cyffredinol o gyfweliadau a gynigir i bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl. Am fwy o fanylion ewch i Hyderus o ran Anabledd.