Dewislen

HYFFORDDWR TGCh

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 11 Medi 2024
Cyflog: £30,296 i £31,364 bob blwyddyn
Oriau: Llawn Amser
Dyddiad cau: 02 Hydref 2024
Lleoliad: CF72 8LX
Gweithio o bell: Ar y safle yn unig
Cwmni: South Wales Fire and Rescue Service
Math o swydd: Parhaol
Cyfeirnod swydd: 503265

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb


Mae'r swydd wag barhaol uchod wedi codi o fewn Adran TGCh, Pencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Parc Busnes Forest View, Llantrisant, CF72 8LX.

Mae technoleg yn rhan hanfodol o'r modd y mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cefnogi'r gwaith o gyflawni ei weithgareddau o ddydd i ddydd. P’un a yw’n ymwneud ag ysgogi ein criwiau i ddigwyddiadau gweithredol, sicrhau bod ganddynt fynediad at wybodaeth risg hollbwysig, neu gefnogi swyddogaethau cefn swyddfa wrth reoli ein hadnoddau, mae technoleg yn cyffwrdd â phob rhan o’n Gwasanaeth.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi gweithrediad y Strategaeth TGCh trwy ddarparu hyfforddiant a chefnogaeth dechnegol ar gyfer pob agwedd ar TGCh. Byddant yn dylunio ac yn cyflwyno hyfforddiant priodol i staff gan ddefnyddio dulliau cyflwyno amrywiol gan gynnwys ystafell ddosbarth, gweithdai, hyfforddiant un-i-un, e-ddysgu a ddarperir ar unrhyw safle o fewn y Gwasanaeth.

Rydym yn sefydliad sy'n gyfeillgar i deuluoedd, ac mae system gweithio hyblyg mewn grym.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad cofnod troseddol sylfaenol boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a bydd gofyn iddo/iddi ymgymryd â Phrawf Cyffuriau ac Alcohol cyn gwneir penodiad.

Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â phrofiad addas fel yr amlinellir ym Manyleb y Person. Mae’n bosibl y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad cofnod troseddol boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac efallai y bydd yn ofynnol iddo ymgymryd â Phrawf Cyffuriau ac Alcohol cyn penodi. Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Dylid cwblhau Ffurflenni Cais ar-lein drwy law ein system e-recriwtio a ellir ei gyrchu drwy law ein gwefan.

Mae'r holl ddogfennaeth ar gael yn Gymraeg a Saesneg ill dau a chroesawn gyfathrebiadau yn y naill iaith â'r llall. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol. Rhoddir cyfle i ymgeiswyr sy'n llwyddiannus yn y cam Rhestr Fer i gadarnhau eu dewis iaith ar gyfer cyfweliadau ac asesiadau (gan gynnwys gwaith papur, cyflwyniadau ar lafar a chwestiynau cyfweld). Bydd trefniadau yn cael eu cadarnhau yn dilyn y gwahoddiad i gyfweliad ac fe all gynnwys Cyfieithydd a Chyfieithu/neu Gyfieithu ar y Pryd.

Mae GTADC yn credu fod gwir werth mewn cael gweithlu amrywiol ac rydym am fod yn rhagweithiol wrth annog ymgeiswyr o bob sector o’n cymuned i ymgeisio.

Gwneud cais am y swydd hon