Golchfa Pot
Dyddiad hysbysebu: | 03 May 2024 |
---|---|
Cyflog: | £8.60 to £11.44 per hour |
Oriau: | Part time |
Dyddiad cau: | 02 June 2024 |
Lleoliad: | LL49 9NF |
Gweithio o bell: | Ar y safle yn unig |
Cwmni: | Festiniog Railway Company |
Math o swydd: | Temporary |
Cyfeirnod swydd: |
Crynodeb
Rydym yn edrcyh am unigolion brwdfrydig, gweithgar i ymuno â’n tîm ymroddedig o staff gweithio yn Spooner’s.
Gallwn gynnig i chi:
• £8.60 yr awr i ymgeiswyr ar gyfer rhai o dan 21 oed, £11.44 yr awr i ymgeiswyr 21 oed ag drosodd
• Contract tymhorol i ddechrau ar unwaith hyd at 1af o Dachwedd 2024, gyda’r posibilrwydd o estyniad
• Sifftiau hyblyg i weddu’r ymgeisydd; patrwm sifftiau penwythnosau a gwyliau ar gael penwythnosau a gwyliau
• Cyfwerth pro rata o 28 diwrnod o wyliau â thâl, gan gynnwys yr holl wyliau banc a chyhoeddus
• Ymrestriad i gynllun pensiwn y cwmni ar ôl cyfnod cymhwyso
• Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a chynnydd
• Manteision teithio ar Reilffyrdd Ffestiniog ac Eryri a gostyngiadau staff mewn siopau a chaffis.
Bydd dyletswyddau allweddol yn cynnwys mynd â bwyd allan o'r gegin, clirio byrddau, llwytho'r peiriant golchi llestri a golchi llestri. Byddai profiad o weithio mewn caffi neu fwyty o fantais ond nid yn hanfodol gan y bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfforddus tra’n gweithio mewn amgylchedd prysur a chyflym. Rhaid i ymgeiswyr fod yn hyblyg ac yn gallu gweithio yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau. Bydd oriau gwaith yn amrywio ac efallai y bydd oriau ar gael i weddu i'r ymgeisydd.
Sgiliau Craidd:
• Profiad mewn rôl Blaen Tŷ
• Chwaraewr tim
• Sgiliau cyfathrebu da
• Yr gallu i weithio yn lân ac yn daclus
• Mae gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o hylendid bwyd a chegin yn ddymunol
Mae hon yn ardal Gymraeg ei hiaith yn bennaf ac mae'r Cwmni yn gweithredu polisi dwyieithrwydd. Felly, mae'r gallu i sgwrsio yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swyddi hyn. Byddai gwybodaeth am am leoliadau ar y Rheilffyrdd a'u defnydd gan ymwelwyr ac am Borthmadog a'r cyffiniau yn fanteisiol.
Rhaid bod gan ymgeiswyr am y swydd hon yr hawl bresennol i weithio yn y DU.
Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd