Dewislen

Manylion am gwcis ar y gwasanaeth hwn

Mae'r gwasanaeth 'Dod o hyd i swydd' yn gosod ffeiliau bychan (a adnabyddir fel ‘cwcis’) ar eich dyfais i gasglu gwybodaeth am sut rydych yn ei ddefnyddio. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth i’n helpu i ddiweddaru a gwella’r gwasanaeth.

Fel arfer byddwch yn gweld neges ar y safle cyn i ni storio cwci ar eich cyfrifiadur.

Darganfyddwch fwy am sut i reoli a dileu cwcis. Gallwch barhau i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn gyda cwcis wedi cael eu troi i ffwrdd.

Mesur defnydd o wefan (Google Analytics)

Rydym yn defnyddio meddalwedd Google Analytics i gasglu gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio'r gwasanaeth 'Dod o hyd i swydd'. Rydym yn gwneud hyn i helpu i sicrhau ei fod yn cwrdd ag anghenion ei ddefnyddwyr ac i’n helpu i wneud gwelliannau.

Mae Google Analytics yn cadw gwybodaeth am:

  • y tudalennau rydych yn ymweld â hwy
  • faint o amser rydych yn ei dreulio ar bob tudalen
  • sut cyrhaeddoch chi’r gwasanaeth
  • beth rydych yn clicio arno tra rydych yn defnyddio’r gwasanaeth

Ni all y wybodaeth hon gael ei defnyddio i gael gwybod pwy ydych chi.

Nid ydym yn caniatáu i Google ddefnyddio neu rannu ein data dadansoddiadol.

Mae Google Analytics yn gosod y cwcis canlynol:

Enw Pwrpas Dod i ben
_ga Mae hwn yn ein helpu i gyfrif faint o bobl sy’n ymweld â Dod o hyd i swydd drwy olrhain os ydych wedi ymweld o’r blaen 2 flynedd
_gid Mae hwn yn ein helpu i gyfrif faint o bobl sy’n ymweld â Dod o hyd i swydd drwy olrhain os ydych wedi ymweld o’r blaen 24 awr
_gat Defnyddir i reoli’r gyfradd y mae ceisiadau i edrych ar dudalen yn cael eu gwneud 1 munud
_ga_F1PT45TQH1 Defnyddir gan Google Analytics i ganfod sesiwn unigol gyda'ch dyfais a'i olrhain 2 flynedd

Neges cwcis

Efallai y byddwch yn gweld baner pan ymwelwch â'r wefan hon yn eich gwahodd i dderbyn cwcis neu adolygu'ch gosodiadau.

Byddwn yn gosod cwcis fel bod eich cyfrifiadur yn gwybod eich bod wedi ei weld ac i beidio â'i ddangos eto, a hefyd i storio'ch gosodiadau.

Enw Pwrpas Dod i ben
seen_cookie_message Arbed eich gosodiadau caniatâd cwcis 1 flwyddyn

Sesiwn a Dilysu

Mae ein system angen ffordd i storio eich dewisiadau dros dro. Er enghraifft os ydych yn penderfynu i newid y nifer o swyddi sy'n cael eu dangos "fesul tudalen" ar y tudalen canlyniad chwilio, rydym angen gallu cofio eich dewis unwaith rydych yn ymweld â'r dudalen nesaf o'r canlyniadau ond anghofio'r dewis hwn yn syth unwaith rydych yn cau ffenestr / tab eich porwr. Rydym yn defnyddio cwci o'r enw session i wneud hynny.

Yn debyg mae'r 'auth cookie' - sy'n cael ei roi ar ôl i chi fewngofnodi - yn cynnwys tocyn sy'n dweud wrthym eich bod wedi mewngofnodi ac sy'n ein galluogi i nôl manylion eich cyfrif/CV sydd wedi’i lwytho/rhybuddion e-byst sydd wedi'u cadw ac ati.

Unwaith eich bod wedi mewngofnodi, byddwn yn monitro eich gweithred ac yn eich allgofnodi os ydych wedi bod yn segur am fwy na 15 munud. Rydym yn defnyddio cwci defnyddiwr i fonitro symudiad llygoden, cliciau a mewnbwn bysellu. Rydym yn defnyddio’r tudalen llwytho cwcis i fonitro’r tro diwethaf i dudalen chael ei ail-lwytho neu yr adnewyddir sesiwn. Mae’r wybodaeth hon yn rhoi gwybod i ni y tro diwethaf roeddech yn weithredol ar y safle ac os yw’n ddiogel i’ch allgofnodi’n awtomatig neu beidio.

Enw Pwrpas Dod i ben
session Yn ein helpu i gofio dros dro eich dewisiadau fel "nifer o ganlyniadau fesul tudalen" pan rydych yn cau eich porwr
auth Yn ein helpu i'ch adnabod ar ôl i chi fewngofnodi pan rydych yn cau eich porwr
user_activity Yn dweud wrthym y tro diwethaf roeddech yn weithredol, yn defnyddio eich llygoden neu fysellfwrdd pan rydych yn cau eich porwr
page_load Yn dweud wrthym y tro diwethaf gwnaethoch ail-lwytho tudalen neu adnewyddu sesiwn pan rydych yn cau eich porwr

Cofio eich gweithred wreiddiol

Os ydych yn dewis i hoffi hysbyseb swydd neu greu rhybudd e-bost tra nad ydych wedi mewngofnodi, rydym yn eich ailgyfeirio i’n tudalen mewngofnodi. Fodd bynnag, unwaith rydych wedi mewngofnodi rydym eisiau eich ailgyfeirio i ble'r oeddech ac - yn ddelfrydol - ceisio gwneud y weithred roedd yn bwriadu'i wneud yn wreiddiol. Mae'r cwci uj_intention yn helpu i olrhain rhai o'r gweithredoedd hyn.

Pan fyddwch yn clicio ar swydd o'r dudalen canlyniadau chwilio, mae uj_last_query yn caniatáu i ni gofio beth rydych wedi chwilio amdano. Mae hyn yn golygu y gallwn ddarparu cyswllt yn ôl i'r dudalen canlyniadau chwilio.

Enw Pwrpas Dod i ben
uj_intention Yn ein helpu i gofio'r weithred roeddech yn bwriadu ei pherfformio'n wreiddiol pan rydych yn cau eich porwr
uj_last_query Mae'n helpu ni i gofio dros dro eich chwiliad diwethaf er mwyn i chi allu pori yn ôl iddo pan rydych yn cau eich porwr

Ardal cyflogwyr

Os byddwch yn mewngofnodi fel cyflogwr, mae'r cwci employerAuth yn cynnwys tocyn a fydd yn helpu ein system i'ch adnabod yn gywir.

Enw Pwrpas Dod i ben
employerAuth Yn ein helpu i'ch adnabod fel cyflogwr pan rydych yn cau eich porwr

Diweddariadau

Gallwn ddiweddaru ein polisi cwcis unrhyw adeg. Gwiriwch y dudalen hon yn rheolaidd i gael gwybod am ddiweddariadau.

Diweddarwyd y polisi cwcis hwn ddiwethaf ar 29 Mehefin 2023.