Menu

Darlithydd yn y Gyfraith (Addysgu ac Ysgolheictod)

Job details
Posting date: 27 September 2025
Salary: £38,249 to £45,413 per year, pro rata
Hours: Full time
Closing date: 12 October 2025
Location: LL57 2DG – opsiwn i dreulio peth amser yn gweithio o bell a drafodir ymhellach gydag ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Remote working: Hybrid - work remotely up to 2 days per week
Company: Bangor University
Job type: Temporary
Job reference: (Cyf: BU03861)

Apply for this job

Summary

Prifysgol Bangor

Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas

Darlithydd yn y Gyfraith (Addysgu ac Ysgolheictod)

(Cyf: BU03861)

Graddfa: 7 - £38,249 - £45,413


Gwahoddir ceisiadau am swydd cyfnod penodol fel Darlithydd yn y Gyfraith (Addysgu ac Ysgolheictod) yn Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyflwyno modiwlau israddedig ac ôl-radd sydd eisoes yn bodoli ac wedi’u dilysu. Bydd y dyletswyddau'n cynnwys addysgu’r Gyfraith, gan gynnwys datblygu adnoddau addysgu a marcio aseiniadau. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus hefyd ddarparu cefnogaeth fugeiliol i fyfyrwyr a chynorthwyo gyda gweithgareddau recriwtio.

Dylai fod gan ymgeiswyr PhD yn y Gyfraith (neu fod bron â chwblhau), neu mewn disgyblaeth gysylltiedig neu dylent allu dangos bod ganddynt brofiad perthnasol.

Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd hon.

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau cyn gynted â phosibl, er mwyn dechrau addysgu yn ystod yr wythnos yn dechrau 29 Medi. Swydd cyfnod penodol yw hon am 5 mis dros gyfnod o absenoldeb mamolaeth.

Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Caiff hynny ei drafod gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.

Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.

Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 12 Hydref, 2025.

Cynhelir cyfweliadau am y swydd hon cyn gynted â phosib ar ôl y dyddiad cau.

Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal.

Apply for this job