ALN Support Officer – Ysgol Bro Teifi
Posting date: | 07 July 2025 |
---|---|
Salary: | £30,559.00 to £32,654.00 per year, pro rata |
Hours: | Full time |
Closing date: | 11 July 2025 |
Location: | Ceredigion, Wales |
Remote working: | On-site only |
Company: | Cyngor Sir Ceredigion County Council |
Job type: | Permanent |
Job reference: | REQ106140 |
Summary
The following is for an advert for a position where the ability to converse through the medium of English and Welsh is essential.
Mae Llywodraethwyr Ysgol Bro Teifi yn awyddus i benodi unigolyn trefnus, gweithgar a phrofiadol i ymuno ag Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol yr ysgol fel Rheolwr ADY (Gweinyddiaeth a Threfn Lefel 4). Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn yn cefnogi’r CADY (Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol) drwy reoli a goruchwylio gwaith gweinyddol o fewn yr adran ADY ynghyd â chynllunio, trefnu a monitro gwaith cynorthwy-wyr dysgu ADY.
Manylion y swydd:
- Cymryd rôl blaenllaw wrth drefnu a hwyluso cyfarfodydd adolygiadau blynyddol ADY fel rhan o drefniadau’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
- Casglu gwybodaeth o ffynonellau mewnol ac allanol (gwasanaeth iechyd, seicolegwyr addysg, asiantaethau perthnasol eraill) wrth baratoi ar gyfer adolygiadau blynyddol a chyfeiriadau panel cefnogaeth ADY.
- Cadw threfn a diweddaru holl gofnodion electronig yn ymwneud â disgyblion ADY yr ysgol o fewn system Canolfan Athrawon a Bromcom (system rheoli gwybodaeth).
- Trefnu, monitro a gwerthuso amserlenni cynorthw-wyr ADY, rhaglenni ymyrraeth ac amserlenni disgyblion ADY yr ysgol.
- Casglu a chadw cofnod o gynnydd dysgwyr ADY o fewn systemau’r ysgol gan gynnwys data profion cenedlaethol ac asesiadau penodol eraill.
- Cefnogi blaenoriaethau cyffredinol yr ysgol a’r adran gynhwysiant.
Disgwylir agwedd hyblyg at ddyletswyddau’r swydd, gan fod anghenion y gwasanaeth yn newid. Fe wneir hynny’n unol â gofynion yr ysgol a’r swydd ac yn dilyn trafodaeth gyda deiliad y swydd.
Ysgol gydol oed 3-19 yw Ysgol Bro Teifi wedi ei leoli y tu allan i dref Llandysul yn ne-ddwyrain Ceredigion. Mae rhyw 45 munud o daith o ddiwedd yr M4 a 30 munud o dref Caerfyrddin. Mae’r ysgol yn gwasanaethu ardal wledig, Gymreig gyda thua 79% o’r disgyblion yn siarad Cymraeg yn rhugl a bron i 64% yn siarad Cymraeg yn y cartref.
Agorwyd yr ysgol ym Medi 2016, yn dilyn buddsoddiad o £30m gan Gyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cymru. Ers iddi agor mae nifer y disgyblion wedi cynyddu’n sylweddol ac ar hyn o bryd, mae oddeutu 850 o ddisgyblion yn yr ysgol gan gynnwys tua 85 yn y chweched dosbarth.
Mae’r gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd.
Gweler ein gwefan gyrfaoedd i weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb Person.
Os am drafodaeth anffurfiol ynglwn â’r swydd hon, cysylltwch â Phennaeth Ysgol Bro Teifi, Mr Gareth Evans ar 01559 362503 neu drwy e-bost, EvansG304@broteifi.ceredigion.sch.uk.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Proud member of the Disability Confident employer scheme