Dadansoddwr yn yr Adran Cyfiawnder Troseddol
Posting date: | 04 June 2025 |
---|---|
Salary: | £31,296 to £39,813 per year |
Hours: | Full time |
Closing date: | 26 June 2025 |
Location: | Carmarthen, Carmarthenshire |
Remote working: | Hybrid - work remotely up to 2 days per week |
Company: | Dyfed-Powys Police |
Job type: | Permanent |
Job reference: |
Summary
Heddlu Heddlu Dyfed Powys
Math o rôl Staff Heddlu
Maes Busnes / Adran Cyfiawnder Troseddol a'r Ddalfa
Lleoliad Caerfyrddin, Pencadlys
Hyblyg/Sefydlog/Sefydlog a Gweithredol Hyblyg
Gradd E/F
Cyflog £31,296 - £39,813
Rhan/Llawn Amser Llawn Amser
Oriau'r Wythnos 37
Math o Gytundeb Parhaol
Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol? 1
Dyddiad Cyfweliad 15 Gorffennaf 2025
Dyddiad cau 26/06/25 23:55
Disgrifiad Hysbysiad Swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Dadansoddwr yn yr Adran Cyfiawnder Troseddol yn : Cyfiawnder Troseddol.
Beth fyddwch chi’n ei wneud?
Darparu cymorth, cyngor ac arweiniad ar faterion cyfiawnder troseddol i bersonél yr heddlu a phartneriaid cyfiawnder troseddol, yn ogystal â bod yn bwynt cyswllt ar gyfer pob mater sy’n ymwneud â systemau TG penodol i gyfiawnder troseddol. Cynnal ymchwil, paratoi a dosbarthu adroddiadau / diweddariadau yn fewnol ac yn allanol a chyfrannu at ddatblygu a gweithredu polisïau a gweithdrefnau. Adolygu perfformiad mewnol ac allanol yn ddadansoddol mewn perthynas â chyfiawnder troseddol
Bod yn gyfrifol am gasglu a dadansoddi gwybodaeth gymhleth er mwyn cynhyrchu adroddiadau perfformiad cywir i gyflawni canlyniadau gwell, gan gynnwys argymhellion ar gyfer newid.
Cynorthwyo gyda datblygu a chynnal gofynion TG adrannol i ddarparu ar gyfer newidiadau mewn arferion gwaith, gan gysylltu â darparwyr gwasanaethau a defnyddwyr systemau eraill i sicrhau bod y defnydd gorau o’r dechnoleg sydd ar gael yn cael ei wneud.
Os ydych chi’n credu bod gennych chi’r sgiliau a’r angerdd ar gyfer y swydd hon, cliciwch y ddolen isod i weld y proffil swydd. Os ydych chi’n credu mai hon yw’r swydd i chi, cwblhewch ffurflen gais, gan roi tystiolaeth yn erbyn y cymwysterau gofynnol (sydd ar dudalen olaf y proffil swydd fel arfer).
Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr a atodir isod, sy’n rhoi mwy o fanylion ynglŷn â sut i gwblhau’ch cais.
Beth allwch chi ddisgwyl?
Bydd gan bob dechreuwr newydd gyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno
24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus
24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle
Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)
Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas
Cynllun Beicio i’r Gwaith
Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi
Cynllun pensiwn
Rhwydweithiau Cymorth Staff
Cyfleoedd gweithio hyblyg
Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael
Darpariaethau tâl salwch
Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.
Bydd y cyflog ar gyfer unrhyw swyddi gwag rhan amser ar sail pro rata.
Cynhelir cyfweliadau: 14/15 Gorffennaf 2025
Amrywiaeth a’r Gymraeg
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.
Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.
Cliciwch fan hyn i weld pa un ai a ydych chi’n gymwys ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol ai peidio.
Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Pwynt gwybodaeth:
Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recruitment@dyfed-powys.police.uk
Neu ymunwch â’n digwyddiad recriwtio galw heibio wythnosol ar ddydd Mercher o 11y.b. – 11:30y.b. fan hyn.