Menu
Warning This job advert has expired and applications have closed.

Gwasanaethau Pobl – Partner Busnes (PSBP) - Cysylltiadau Gweithwyr

Job details
Posting date: 30 May 2025
Salary: £39,513.00 to £40,476.00 per year
Hours: Full time
Closing date: 20 June 2025
Location: Llantrisant, Pontyclun
Remote working: On-site only
Company: South Wales Fire and Rescue Service
Job type: Contract
Job reference: 505446

Summary

Disgrifiad Swydd

Gan adrodd i Dîm Rheoli Gwasanaethau Pobl (*Gweler yr Eirfa), mae Partneriaid Busnes Gwasanaethau Pobl (PSGP) yn helpu i gyflawni Blaenoriaethau Allweddol y Cyfarwyddiaeth*

Bydd y tîm Partner Busnes (PB) yn cyfrannu at adeiladu diwylliant cadarnhaol, croesawgar, cydlynol a chynhwysol trwy ‘bartneru’ ag arweinwyr canol ac uwch trwy eu gwybodaeth arbenigol i ddarparu gwasanaeth arbenigol, cefnogi neu arwain prosiectau, a helpu i ddatblygu polisïau a rhaglenni yn unol â nodau ac amcanion GTADC.

Bydd tîm PB yn cyflawni hyn drwy’r canlynol:
- Gweithredu fel yr arbenigwyr Rheoli Pobl o fewn eu disgyblaethau; datblygu eraill, hybu ymwybyddiaeth, a chynnig cymorth a chyngor o'u maes arbenigedd i sicrhau profiad rhagorol i weithwyr, gan roi pobl wrth wraidd popeth a wnawn.
- Cefnogi’r Tîm Rheoli Gwasanaethau Pobl i reoli adnoddau’n effeithiol ac yn effeithlon er mwyn sicrhau y cyflawnir cytundebau lefel gwasanaeth (CLG), Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA) ac wrth gydgynhyrchu Gwybodaeth Reoli (MI) ar gyfer holl weithgarwch y bobl craidd yn unol â’n polisïau a’n huchelgeisiau strategol.
- Cyfrannu at brosiectau a rhaglenni sy'n datblygu'n barhaus, yn monitro, yn arloesi ac yn gwella holl weithgareddau gweithredol ein gwasanaethau pobl gan gynnwys systemau a phrosesau.


**Sylwer – Rhaid darllen y Proffil Rôl hwn ar y cyd â’r ‘Meini Prawf Hanfodol’ perthnasol ar gyfer Arbenigedd Partner Busnes mewn perthynas â’r swydd wag a allai fod ar gael (cyf Atodiad 1)**


I weld Atodiad 1: Meini Prawf Hanfodol Arbenigedd a'r eirfa ewch i'n gwefan recriwtio a gweld proffil swydd Partner Busnes Gwasanaethau Pobl - Cysylltiadau Gweithwyr.

Am ragor o wybodaeth ewch i'n gwefan recriwtio