Menu

Ymarferydd Ymyrraeth Diogelwch Tân (YDT)

Job details
Posting date: 18 December 2025
Salary: £32,597 to £33,699 per year
Hours: Full time
Closing date: 08 January 2026
Location: CF72 8LX
Remote working: Hybrid - work remotely up to 2 days per week
Company: South Wales Fire and Rescue Service
Job type: Permanent
Job reference: 506204

Apply for this job

Summary

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn chwilio am Ymarferydd YDT ymroddedig a hydwyth i ymuno â'n Hadran Diogelwch Cymunedol a Phartneriaethau. Mae hwn yn gyfle gwerth chweil i wneud gwahaniaeth ystyrlon ym mywydau plant a phobl ifanc. Byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth gyflwyno ymyriadau strwythuredig, meithrin cydberthnasau cadarnhaol, a gweithio ar y cyd ag asiantaethau allanol i sicrhau'r canlyniadau gorau i'r rhai rydych chi'n eu cefnogi.
Yn y rôl hon, byddwch yn gyfrifol am gynllunio a chyflwyno ymyriadau wedi'u teilwra i anghenion unigol, gan gefnogi pobl ifanc gan gynnwys y rhai a allai arddangos ymddygiad heriol. Bydd diogelu ac amddiffyn plant yn ganolog i'ch gwaith, byddwch hefyd yn cynnal cofnodion cywir a chyfrinachol, yn ogystal â hyrwyddo cydraddoldeb,
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dangos parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant gofynnol, mewnol ac allanol ill ddau. Er bod cymhwyster perthnasol mewn gwaith ieuenctid, addysg, neu ofal cymdeithasol yn ddymunol, nid yw'n hanfodol. Yn bwysicach fyth, byddwch yn dod â phrofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc, dealltwriaeth gref o ddiogelu a gwarchod plant, a'r gallu i reoli gwybodaeth gyfrinachol yn gyfrifol. Mae profiad o weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau allanol yn hanfodol, a byddai gwybodaeth am leihau risg diogelwch tân neu ddiogelwch cymunedol yn fantais.

Apply for this job