Menu

PENNAETH CYLLID, CAFFAEL AC EIDDO

Job details
Posting date: 18 April 2024
Salary: £69,283.00 to £69,283.00 per year
Hours: Full time
Closing date: 02 May 2024
Location: CF72 8LX
Remote working: On-site only
Company: South Wales Fire and Rescue Service
Job type: Permanent
Job reference: 505014

Apply for this job

Summary

GWASANAETH TÂN AC ACHUB DE CYMRU

A OES MODD I CHI GRYFHAU EIN GWASANAETH?

PENNAETH CYLLID, CAFFAEL AC EIDDO
Cyflog: £69,283 ynghyd â mynediad i Gynllun Car Prydles Gwasanaeth


Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yw un o Wasanaethau Tân ac Achub mwyaf, mwyaf llwyddiannus ac uchaf ei berfformiad yn y DU, yn gwasanaethu dros 1.5 miliwn o bobl ar draws 10 Awdurdod Unedol Cyfansoddol yn ymestyn o Ben-y-bont ar Ogwr i Drefynwy ac o Fae Caerdydd i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Rydym wedi sefydlu enw rhagorol o ran cyflwyno ein gwasanaethau; gan gynnwys ymateb i ddigwyddiadau argyfwng ac ystod eithriadol o fentrau atal ac addysgu. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru'n ymrwymedig i wneud ein cymunedau'r llefydd mwyaf diogel i fyw, i weithio ac i ymweld â hwy. Wrth ganolbwyntio ar amddiffyn cymunedau, denu a datblygu ein pobl a defnyddio o adnoddau'n effeithiol, anelwn at welliant a rhagoriaeth sefydliadol.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru am benodi Pennaeth Cyllid, Caffael ac Eiddo fydd yn cynnal gwerthoedd y Gwasanaeth sef bod yn broffesiynol, yn ofalgar, yn barchus, yn ymroddgar, yn ddibynadwy, yn rymus, yn ddisgybledig ac yn hydwyth. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu meithrin agwedd frwdfrydig ac arloesol o ran arwain mewn Gwasanaeth gydag ardal fawr gan adrodd yn uniongyrchol i Gyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol.

Bydd hwn yn gyfle i'r ymgeisydd llwyddiannus gyfrannu at ddiwylliant a gwerthoedd y Gwasanaeth Tân ac Achub wrth ddarparu rheolaeth strategol, ac wrth adeiladu a chynnal perfformiad uchel fydd yn cyfrannu at y wedd y gwasanaeth a ddarperir i bobl De Cymru yn y dyfodol. Yn ychwanegol at ofynion y rôl heriol hon, bydd cyfle sylweddol i'r ymgeisydd llwyddiannus gynorthwyo â datblygu rôl y Gwasanaeth o fewn cyd-destun gwasanaethau cyhoeddus Cymru a gweddill y DU.

Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus arddangos sgiliau cadarn o ran cynllunio, sgiliau sefydliadol ac ymwneud â phobl . Bydd sgiliau cyfathrebu a sgiliau creu perthynas/rhwydweithio rhagorol yn allweddol i gynghori Comisiynwyr Gwasanaeth Tân ac Achub ar lefel strategol a gweithio mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, Gwasanaethau Tân ac Achub eraill a sefydliadau partner.

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd ag ystod eang o brofiad a'r gallu i wneud penderfyniadau effeithiol wedi'u seilio ar graffter cadarn.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymrwymedig i degwch yn y gweithle a bydd yn cyflawni hwn yn llwyddiannus drwy ddatblygu a gweithredu strategaethau priodol yn effeithiol, drwy staff a thrwy ddarparu gwasanaethau.

Yr oriau gwaith arferol yw 37 awr yr wythnos. Fodd bynnag, achos natur y rôl ni fydd modd eu cyflawni bob amser yn foddhaol o fewn oriau gwaith arferol wythnosau penodol. Bydd angen gwneud rhywfaint o oriau anghymdeithasol er mwyn cyflawni cyfrifoldebau’r swydd a bod yn gynrychiolydd y Gwasanaeth mewn digwyddiadau.


Mae'r amgylchiadau hyn a threfniadau gwaith yn debygol i'ch ymrwymo i gyfnodau estynedig o argaeledd a maint sylweddol o waith yn ogystal â, a thu hwnt i oriau swyddfa arferol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar gymhwyster proffesiynol sy'n briodol i'r swydd yn ogystal â phrofiad profedig o reoli ar lefel uwch, gan arddangos eich bod chi'n gallu arwain a datblygu pobl a rheoli perfformiad yn effeithiol. Mae gwybodaeth am gyllid llywodraeth leol, rheolaeth trysorlys a chaffael yn y sector cyhoeddus yn hanfodol, yn ogystal â dealltwriaeth o agweddau gwleidyddol, cyfreithiol ac ariannol y rôl. Bydd yn ofynnol i chi fod yn feddyliwr strategol a chreadigol ac yn gyfathrebwr cryf. Disgwylir i'r ymgeiswyr llwyddiannus fod yn aelod gweithredol o Gyngor y Penaethiaid Tân Cenedlaethol (CPTC) drwy law aelodaeth gorfforaethol y Gwasanaeth.

Lleolir y swydd ym Mhencadlys y Gwasanaeth Tân, Parc Busnes Forest View, Llantrisant, Pont-y-clun, CF72 8LX neu unrhyw un o leoliadau eraill y Gwasanaeth.

Am drafodaeth anffurfiol ynghylch y rôl, mae croeso i chi gysylltu â'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol, Mr Geraint Thomas ar 01443 232074.

https://www.decymru-tan.gov.uk/gweithio-gyda-ni/swyddi-diweddaraf/ Dylai ceisiadau gyrraedd y Tîm Recriwtio erbyn 12 ganol dydd Dydd Iau y 2ail o Fai 2024.
AW
Dylid cwblhau Ffurflenni Cais ar-lein drwy law ein system e-recriwtio a ellir ei chyrchu drwy law ein gwefan: https://www.decymru-tan.gov.uk/gweithio-gyda-ni/swyddi-diweddaraf/.
Os bydd angen fersiwn bapur arnoch chi cysylltwch drwy law e-bost:
personel@decymru-tan.gov.uk Sylwch y bydd y system e-recriwtio yn hysbysu pob ymgeisydd am y canlyniadau trwy'r cyfeiriad e-bost a ddarperir yn y cais; dylech sicrhau eich bod yn gwirio pob ffolder e-bost yn rheolaidd.

Dylai pob ymgeisydd mewnol sy'n gwneud cais wneud hynny trwy law eu porth CORE, gan ddewis ''Swyddi Gwag Cyfredol'' o'r tab ar y chwith.

Amserlen Penodi

Gweithgaredd Dyddiad
Cyfweliad Proffesiynol – Tîm Arwain Gweithredol

w/d 13eg o Fai 2024





Mae'r holl ddogfennaeth ar gael yn Gymraeg a Saesneg ill dau a chroesawn gyfathrebiadau yn y naill iaith â'r llall. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol. Bydd ymgeiswyr sy'n llwyddo i gyrraedd y rhestr fer yn derbyn cyfle i gadarnhau eu dewis iaith ar gyfer cyfweliadau ac asesiadau (gan gynnwys gwaith papur, cyflwyniadau ar lafar a chwestiynau cyfweliadau).
Bydd trefniadau yn cael eu cadarnhau yn dilyn gwahoddiad i gyfweliad ac fe allai gynnwys Cyfieithu a/neu Gyfieithu ar y Pryd.

Mae GTADC yn credu yng ngwir werth cael gweithlu amrywiol ac rydym am fod yn rhagweithiol wrth annog ymgeiswyr o bob sector o'r gymuned i ymgeisio.

Apply for this job