Menu

SWYDDOG GWEINYDDOL

Job details
Posting date: 24 April 2024
Salary: £24,294 to £24,702 per year, pro rata
Hours: Part time
Closing date: 15 May 2024
Location: CF72 8LX
Remote working: On-site only
Company: South Wales Fire and Rescue Service
Job type: Temporary
Job reference: NU421

Apply for this job

Summary

Mae'r swydd wag barhaol uchod wedi codi o fewn ein Hadran Cymorth Busnes, Gwasanaethau Corfforaethol, Pencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Parc Busnes Forest View, Llantrisant, CF72 8LX.

Bydd deiliad y swydd yn darparu cymorth gweinyddol cyffredinol i'r Goruchwyliwr Gweinyddol a phob cyfarwyddiaeth ar draws y sefydliad. Bydd prif gyfrifoldebau’r rôl o ddydd i ddydd yn cynnwys monitro mewnflychau e-bost, llungopïo, sganio, lanlwytho dogfennau i wefan a mewnrwyd y Gwasanaeth, gweithio gyda systemau ffeilio a chronfeydd data, ateb galwadau ffôn a mewnbynnu data’n gywir. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gyflenwi yn y Dderbynfa yn ôl y gofyn, a bydd hyn yn cynnwys dyletswyddau switsfwrdd a chasglu ac anfon post ar draws y sefydliad.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gymhwyster NVQ Lefel 2 mewn Gweinyddu Busnes (neu gymhwyster cyfwerth) yn ogystal â phrofiad o weithio mewn amgylchedd gweinyddol. Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, ac rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy'n gallu cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg ar Lefel TGAU (Canolradd) neu uwch.

Dylid llenwi Ffurflenni Cais ar-lein drwy law ein system e-recriwtio, y gellir ei chyrchu drwy ein gwefan

Apply for this job