Menu

Swyddog Hydwythedd a Chynllunio

Job details
Posting date: 12 April 2024
Salary: £32,076 to £33,945 per year
Hours: Full time
Closing date: 03 May 2024
Location: Llantrisant, Pontyclun
Remote working: Hybrid - work remotely up to 1 day per week
Company: South Wales Fire and Rescue Service
Job type: Permanent
Job reference:

Apply for this job

Summary

GWASANAETH TÂN AC ACHUB DE CYMRU
SWYDD-DDISGRIFIAD

Adran
Adran Rheoli Risg Gweithredol
Swydd
Swyddog Hydwythedd a Chynllunio
Rhif y Swydd
NU101
Gradd
9 (£32,076 - £33,945)
Lleoliad
Pencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Yn gyfrifol i'r
Rheolwr Grŵp - Rheoli Risg Gweithredol
Yn gyfrifol am
y Tîm Hydwythedd

Cyfeiria'r swydd-ddisgrifiad hwn at brif bwrpas a chyfrifoldebau’r swydd. Nid yw hyn o reidrwydd yn nodi mewn manylder yr holl dasgau sydd eu hangen i gyflawni’r cyfrifoldebau hyn. Adolygir y swydd-ddisgrifiad hwn fel bo'r gofyn i sicrhau ei fod yn cwrdd ag anghenion busnes y Gwasanaeth

PRIF BWRPAS Y SWYDD
Cefnogi'r Tîm Hydwythedd a Chynllunio, gan weithio â phartneriaid mewnol ac allanol ill ddau ar bob agwedd o Gynllunio Argyfwng i ddatblygu ‘Parhad Busnes’ ymhellach o fewn Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) a chynorthwyo â rheoli'r tîm Hydwythdedd.

DYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU:
1. I ddatblygu a phrofi ‘Parhad Busnes’ o fewn Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC).

2. I ddarparu cyngor a chefnogaeth ym mhob agwedd o Gynllunio Argyfwng a chynorthwyo â rheolaeth parhad busnes o fewn y tîm Hydwythdedd.

3. Cefnogi’r tîm Hydwythdedd a Chynllunio a’r Gwasanaeth trwy ddigwyddiadau parhad busnes yn ôl yr angen.

4. I ddirprwyo a chynrychioli'r adran Hydwythdedd a Chynllunio yng ngyfarfodydd perthnasol ac adrodd nôl at aelodau allweddol yr Adran parthed unrhyw ddatblygiadau.

5. I baratoi adroddiadau sy'n ymwneud â Pharhad Busnes a Chynllunio Argyfwng a gwybodaeth eraill yn ôl y galw a phan ofynnir amdanynt gan Reolwr yr Adran Rheoli Risg Gweithredol.

6. I gysylltu ag asiantaethau eraill i ddatblygu ac adolygu polisïau a gweithdrefnau, gan sicrhau y cynhelir perfformiad "Arfer Orau".

7. I ddefnyddio gwaelodlin marcio dogfennau wrth ymgymryd â gweithgareddau o ddydd i ddydd.

8. I gyflawni cyflwyniadau a threfnu amrywiaeth o ddigwyddiadau hyfforddi mewn perthynas â Pharhad Busnes.

9. I gynnal a datblygu cymhwysedd personol yn barhaol, drwy hyfforddiant a chyfleoedd hunanddatblygu parhaus.

10. Cefnogi cynllunio, hyfforddi a darparu’r cadre'r diffoddwyr tân Wrth Gefn Atodol.


GOFYNION GWASANAETH SAFONOL
• I fynychu cyrsiau hyfforddi mewnol ac allanol yn ôl yr angen

• Unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n gymesurol â’r raddfa a’r swydd

• I gydweithredu’n llawn ag unrhyw gynllun neu gynllun peilot o’r fath a gyflwynir o fewn yr Adran neu ar draws y Gwasanaeth.

• I weithredu egwyddorion Polisïau Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth a Chynllun Iaith Gymraeg y Gwasanaeth wrth gyflawni’r dyletswyddau uchod.

• I ufuddhau i Ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch/Polisïau a Gweithdrefnau Gwasanaeth Perthnasol a chymryd gofal rhesymol am eich iechyd a diogelwch eich hun yn ogystal â rhai personau eraill a all gael eu heffeithio’n andwyol gan eich gweithredoedd/anweithredoedd.

GWERTHOEDD SEFYDLIADOL
Wrth berfformio'r rôl uchod, mae'n ofynnol i bob gweithiwr y Gwasanaeth ddilyn a hyrwyddo Gwerthoedd Craidd y Gwasanaeth i fod, ar bob adeg:

• Yn broffesiynol
• Yn ofalgar
• Yn barchus
• Yn ymroddgar
• Yn ddibynadwy
• Yn rymus
• Yn ddisgybledig
• Yn hydwyth

Mae'r holl ddogfennaeth ar gael yn Gymraeg a Saesneg ill dau a chroesawn gyfathrebiadau yn y naill iaith â'r llall.

Noder:
Bydd y rôl hon yn cynnwys teithio cyson rhwng lleoliadau ar draws ardal De Cymru a bydd angen i ddeilydd y swydd deithio'n annibynnol.



Apply for this job